LHDTC+ 20fed Ganrif
1905
Ganwyd y llenor, dramodydd ac actor Cymraeg, Emlyn Williams (1905 – 1987) yn 1 Jones Terrace, Pen-y-ffordd, Ffynnongroyw, ar 26 Tachwedd. Roedd yn ddeurywiol trwy gydol ei fywyd fel oedolyn ac ysgrifennodd am ei rywioldeb yn ei hunangofiannau, George (1961) ac Emlyn (1973). Bu Emlyn mewn perthynas â’r gohebydd theatr Americanaidd Albert N. Williams o 1981 tan 1986, ar ôl cwrdd ag ef tra roedd yn ymddangos yn Theatr Northlight yn ardal Chicago gyda’i sioe un dyn Charles Dickens. (Gwasanaethodd Albert Williams fel cynorthwyydd personol i Emlyn Williams yn ystod taith o amgylch Cymru, Lloegr ac Iwerddon ym 1982 gyda sioeau unigol Charles Dickens a Dylan Thomas.)
Ffynhonnell: Wikipedia
1914
Ymddangosodd Vesta Tilley (1864-1952) – perfformwraig yn theatrau cerdd Lloegr a oedd yn adnabyddus am bortreadu dynion – yn y Pafiliwn yn y Rhyl ar 2 Medi.

Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Awst 1914. Ysgrifennodd yr hanesydd A. D. Harvey fod tua 230 o filwyr wedi cael eu rhoi ar brawf yn y llysoedd marsial, eu dyfarnu’n euog a’u dedfrydu i gyfnodau yn y carchar am droseddau cyfunrywiol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
1916
(Cyfieithiad) Yn Llangwm ger Corwen ddydd Sadwrn cynhaliwyd angladd Mrs Janet Pugh, tenant fferm Bwlch Carneddog, ac yr oedd llawer iawn o bobl yn bresennol. Yr oedd Mrs Pugh, a oedd yn ei 76ain blwyddyn, yn gymeriad nodedig yn ystod Rhyfel y Degwm chwarter canrif yn ôl, ac yr oedd yn flaenllaw ymysg yr ymladdwyr yn y terfysg hanesyddol yn Llangwm, lle cafodd 38 eu harestio. Yr oedd yr hen wraig yn ymddangos yn gyhoeddus yn gyson yn gwisgo dillad dyn, ac yr oedd yn beth cyfarwydd ei gweld mewn het gron galed a throwsus melfaréd mewn Mawrthnadoedd a ffeiriau yn y cyffiniau. Yr oedd yn ddisgybl a ffrind agos i’r Prifathro Michael Jones o’r Bala.
Ffynhonnell: Llangollen Advertiser, 8 Rhagfyr 1916
1921
Diwygiwyd Deddf Diwygio Cyfraith Trosedd yn Nhŷ’r Cyffredin i gynnwys adran yn gwneud gweithredoedd rhywiol o anwedduster dybryd rhwng merched yn anghyfreithlon. Pasiwyd y Ddeddf gan Dŷ’r Cyffredin, ond fe’i rhwystrwyd gan Dŷ’r Arglwyddi.
Cyrhaeddodd Billie Manders (1887-1950) yn y Rhyl ym 1921, a chymryd yr Amphitheatre ar brydles, ac agor yno ar 11 Gorffennaf. Yr oedd saith yn y cwmni gwreiddiol – pob un yn ddyn – a daeth yn llwyddiant yn syth. Yr oedd Mr Manders bob tro’n ymddangos fel merch. Cynhaliwyd y sioeau am 44 tymor yn olynol tan 1964. Byddent yn aml yn teithio o gwmpas y wlad fel Billie Manders a’r Quaintesques. Ym 1934 daethant yn gyntaf mewn cystadleuaeth gan y Sunday Despatch am yr adloniant gwyliau mwyaf poblogaidd yn Ynysoedd Prydain, yn ôl barn y darllenwyr.
Ffynhonnell: “Billie Manders and the Quaintesques“, gwefan Rhyl History Club; Bill Ellis, Entertainment in Rhyl and North Wales, pennod 2 (The Chalford Publishing Company, Chalford). ISBN 0 7524 0728 7

1924
Roedd Edward Prosser Rhys (4 Mawrth 1901 – 6 Chwefror 1945) yn newyddiadurwr, bardd a chyhoeddwr. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl ym 1924 am ei gerdd “Atgof“, er ei bod yn gerdd ddadleuol oherwydd ei chynnwys cyfunrywiol. Mae’r gerdd yn sôn yn helaeth am ryw – rhyw heterorywiol, yn bennaf – ond y mae adran fer yn sôn am brofiad hoyw. Cafwyd damcaniaethau ei bod yn cyfeirio at Morris T. Williams, ffrind i Prosser Rhys a oedd, ar y pryd, yn briod â Kate Roberts.
Ffynhonnell: Wikipedia
1935
Daeth John Cowper Powys (1872-1963), athronydd, darlithydd, nofelydd, adolygydd a bardd o Loegr, i fyw i Gorwen ym 1935, lle y lleolir dwy nofel ganddo. Symudodd i Flaenau Ffestiniog ym 1955, ac yno y bu farw ym 1963. Ysgrifennodd A sailor and a homosexual: Essays on Joseph Conrad and Oscar Wilde (1923).

Cyfarfu Kate Roberts â Morris T. Williams mewn cyfarfodydd Plaid Cymru, a phriododd ef ym 1928. Roedd Williams yn argraffydd, ac ymhen amser prynodd Wasg Gee, Dinbych, a mynd i fyw yn y dref ym 1935. Roedd y wasg yn cyhoeddi llyfrau, pamffledi a’r wythnosolyn, Y Faner, yr oedd Kate Roberts yn ysgrifennu ar ei gyfer yn rheolaidd. Wedi marwolaeth ei gŵr ym 1946, bu’n rhedeg y wasg am ddeng mlynedd arall. Credir bod Kate a Morris wedi cael perthnasoedd o’r un rhyw. Mae papurau Morris T. Williams, Gwasg Gee, Dinbych, 1900-1945, yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, DD/DM/128.
1942
John Menlove Edwards (1910-1958), seiciatrydd o Loegr a dringwr mynyddoedd – yn dringo mynyddoedd Cymru’n arbennig. Ym 1942 ymddeolodd i Hafod Owen, uwch ben Nant Gwynant yn Eryri, ond derbyniodd therapi electrogynhyrfol a phigiadau inswlin dwfn yn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, am ansadrwydd meddyliol, o bosibl o ganlyniad i geisio cuddio’i gyfunrywioldeb. Cyflawnodd hunanladdiad, ac mae ei lwch wedi ei wasgaru yn Hafod Owen.
1945
Yr Ail Ryfel Byd yn dod i ben. Newidiodd agweddau moesol tuag at gyfunrywioldeb yn dilyn y Rhyfel.
1946
Derbyniodd Michael Dillon un o’r llawdriniaethau ailbennu rhyw cyntaf o fod yn fenyw i fod yn wryw.
1949
Cosb gan Lanc Ifanc am Ymgais Lwgrwobrwyo (cyfieithiad o ‘Punished by Youth for Bribery Bid’)
“Roeddech yn ei haeddu,” meddai’r Barnwr.
“Mae’n amlwg bod y llanc ifanc a dargedwyd wedi gadael olion haeddiannol iawn ar y dyn yma a geisiodd ei lwgrwobrwyo,” meddai Mr Ustus Hallett ym Mrawdlys Rhuthun pan rwymodd Henry Douglas Williams, 35 mlwydd oed, o Stryd Clwyd, Rhuthun, i gadw’r heddwch am dair blynedd. . Yn ogystal, gorchmynnwyd Williams gan y barnwr i dalu costau heb fod yn uwch na £50. Plediodd Williams, casglwr trethi a oedd yn cael ei gyflogi gan gyngor y fwrdeistref, yn euog i gyhuddiad o ymosodiad anweddus. Honnwyd ei fod wedi gwneud awgrymiadau i lanc ifanc 17 mlwydd oed, ac yn ddiweddarach canfu’r heddlu ef yn golchi ei wyneb. “Ia,” meddai Mr Ustus Hallett, “dechreuodd y gŵr ifanc hwn ei daro, ac aeth at y fforman.” Gan siarad â Williams, a ddywedodd ei fod yn barod i’w roi ei hun dan oruchwyliaeth y Swyddog Prawf, dywedodd y barnwr: “Mae’r ffaith eich bod wedi honni mai’r llanc a wnaeth yr awgrym yn eich gwneud yn berson drygionus.”(Cyfieithiad.)
Ffynhonnell: News of the World, 30 Hydref 1949
1951
Daeth Roberta Cowell, cyn-beilot Spitfire yn ystod yr Ail Ryfel Byd, y ddynes drawsryweddol gyntaf i dderbyn llawdriniaeth gadarnhad gwryw i fenyw.
1954
Cyflawnodd Alan Turing hunanladdiad. Roedd yn fathemategydd, rhesymegydd, cêl-ddadansoddwr a chyfrifiadurwr a fu’n ddylanwadol yn natblygiad cyfrifiadureg. Roedd wedi derbyn cwrs o hormonau benywaidd (ysbaddiad cemegol) gan feddygon yn hytrach na mynd i garchar ar ôl cael ei erlyn gan yr heddlu oherwydd ei gyfunrywioldeb.
Ffurfiwyd Pwyllgor Wolfenden. Pan ddaeth i gasgliad ym 1957, argymhellodd ddad-droseddoli cyfunrywioldeb rhwng dynion yn rhannol. Pan na ddilynwyd yr argymhellion hyn gan y llywodraeth, ffurfiwyd Cymdeithas Diwygio Cyfreithiau Cyfunrywiol (Homosexual Law Reform Society) i ymgyrchu dros ddeddfu’r argymhellion.
1960s
Roedd April Ashley (1935-2021), model a menyw draws adnabyddus o Loegr, yn un o’r bobl gynharaf ym Mhrydain y gwyddys ei bod wedi cael llawdriniaeth ailbennu rhyw. Yn ei bywgraffiad, ysgrifennodd (cyfieithiad):
‘Cyfarfûm ag un o gyfarwyddwyr bragdy lleol, a gynigiodd i mi fynd ar gwrs arlwyo. Roedd fy lleoliad cyntaf gyda Mr a Mrs Leadbetter yng Nghaer, yn nhafarn y Commercial yn St Peter’s Graveyard. Ond wrth i mi ddechrau denu cwsmeriaid allblyg cefais draed oer a gofynnais am gael fy adleoli. Cefais fy adleoli i Westy’r Westminster, y Rhyl, i ddysgu sut i weithio mewn ystafelloedd bwyta a cheginau. Yr oedd yr adeg dawel o’r flwyddyn ac yn hollol farwaidd (sglefrio ar olwynion oedd y pleser mwyaf i’w gael yn y dref), felly ar ôl ychydig fisoedd gofynnais am gael fy adleoli eto. Deuthum i Lanelwy. Nid oeddwn yn gallu cyd-dynnu â’r teulu a oedd yn rhedeg y gwesty. Aeth pethau’n ormod pan ruthrodd ceffyl a’m llusgo i ar fy nghefn drwy’r strydoedd siopau un prynhawn Sadwrn prysur. Beth bynnag, dim ond hyn a hyn allwch chi ddysgu am ystafelloedd bwyta. Doedd gen’ i ddim mwy o syniadau; roedd rhaid i rywbeth arall ddigwydd..’
Y gwesty yn Llanelwy oedd y Talardy (sy’n dal i fod yno gerllaw gwibffordd yr A55).
Roeddwn i’n gweithio yno gyda hogyn tenau a oedd ddwy neu dair blynedd yn iau na fi. Fyddech chi ddim wedi ei adnabod o fel darpar ddirprwy Prif Weinidog Prydain. Roedd John Prescott wedi gadael cartref i weithio fel dirprwy gogydd yn y gwesty. Roedd yn weithiwr caled. Roedd y ddau ohonom yn rhannu ystafell gyda bachgen arall. Rwy’n credu fy mod braidd yn ecsotig iddo ar y pryd oherwydd fy edrychiad androgynaidd; fodd bynnag, buom yn siarad llawer. Cafodd lety arall yn fuan. Roeddwn yn ei hoffi o, diolch byth, oherwydd mi fyddai o gymorth mawr i mi yn y dyfodol. Gol. gyda chael ei Thystysgrif Cydnabod Rhywedd.) Ond doeddwn i ddim yn gallu cyd-dynnu â’r teulu.
Ymddeolodd April am rai blynyddoedd i’r Gelli Gandryll cyn symud i Lundain.

Ffynhonnell: Duncan Fallowell & April Ashley, April Ashley’s Odyssey (Jonathan Cape, London, 1982); April Ashley with Douglas Thompson, The First Lady (John Blake, London, 2006).
1967
Ddeng mlynedd wedi Adroddiad Wolfenden, cyflwynodd Leo Abse, yr AS o Gaerdydd, Fil Troseddau Rhywiol 1967 a gefnogwyd gan AS Llafur Roy Jenkins, Ysgrifennydd Cartref Llafur ar y pryd.
Ym 1967 aeth Leo Abse ati i wthio ymlaen argymhellion Adroddiad Wolfenden a gynhyrchwyd ym 1957, a oedd yn argymell bod cyfunrywioldeb yn cael ei ddad-droseddoli yn rhannol. Ymatebodd ASau mewn amrywiaeth o ffyrdd. Eirene Lloyd White, Y Farwnes White (1909–1999) a anwyd ym Melfast, yn ferch i’r Cymro Dr Thomas Jones. Roedd hi’n wleidydd Llafur Prydeinig ac yn newyddiadurwraig a gafodd ei hethol yn AS Llafur dros Ddwyrain y Fflint yn 1950, sef un o’r ASau benywaidd cyntaf yng Nghymru. Credai ei fod yn bwnc ‘anodd, annifyr, a ffiaidd’ a disgrifiodd weithgaredd cyfunrywiol fel ‘rhywbeth hynod wrthun’. Yn rhyfedd iawn fe aeth ymlaen i gefnogi’r cais. Credai, ‘wrth ystyried y pwnc o wneud cyfunrywioldeb mae nifer o ddynion, yn ymwybodol neu’n isymwybodol, yn cael eu symud i gondemniad ffyrnig a rhai’n teimlo bod yn rhaid iddyn nhw haeru eu gwendid eu hunain yn y broses.’
Ym 1970, ymddeolodd Eirene o Dŷ’r Cyffredin a chafodd ei chreu’n arglwydd am oes ar 12 Hydref 1970 gan gymryd y teitl y Farwnes White, o Rymni, Caerffili. Yn 2022, dadorchuddiwyd plac porffor yn Neuadd y Dref y Fflint er anrhydedd iddi, gan gydnabod y ffaith ei bod yn un o’r tair menyw gyntaf i gynrychioli Cymru yn Senedd y DU, ac yn wir, yr unig AS benywaidd yng Nghymru ers deng mlynedd.
Ffynonellau: Wikipedia; Tory Pride and Prejudice: The Conservative Party and homosexual law reform, Michael McManus (Biteback Publishing, 2011); Sexual Politics: Sexuality, Family Planning, and the British Left from the 1880s to the Present Day, Stephen Brooke (Oxford University Press, 2011).
1968
Mae cofnodion cyfarfodydd wythnosol swyddogion meddygol yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Rhuthun). Maent yn cynnwys nodyn yn dweud bod trafodaeth wedi codi ynglŷn â phroblem claf a oedd yn ymwneud â gweithgareddau cyfunrywiol. Cafodd y claf ei drin yn ddiweddarach gyda phigiadau Stilboestrol. [Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol am y claf.]
Ffynhonnell: Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, HD/1/523, Mawrth 1968
1972
Mae cofnodion cyfarfodydd wythnosol swyddogion meddygol yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Rhuthun). Maent yn cynnwys manylion achosion cleifion. Ceir ynddynt nodyn byr yn dweud bod claf trawsrywiol yn gofyn am lawdriniaeth i gael gwared â’i bidyn. [Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol am y claf.]
Ffynhonnell: Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, HD/1/523, October 1972
1977
Dyfarnwyd cyn-Faer Dinbych ac aelod o’r cyngor tref yn euog yn Llys y Goron, Manceinion, o gyflawni gweithred o anwedduster dybryd mewn toiledau cyhoeddus. Roedd Raymond Fox-Byrne, 34 mlwydd oed, o Accar-y-Forwyn, Dinbych, wedi pledio’n ddieuog i gyflawni’r drosedd gyda dyn arall y mis Gorffennaf cynt. Wrth roi rhyddhad amodol iddo am 12 mis dywedodd y Barnwr John da Cunha (cyfieithiad): ‘Rwy’n gobeithio na fydd yr euogfarn hon yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar eich gyrfa fel swyddog llys nac ar eich bywyd cyhoeddus.’ Wrth roi tystiolaeth, gwadodd Fox-Byrne, clerc yn Llys y Goron, Caer, mai ef oedd yr unigolyn a welwyd gan yr heddlu. Honnodd ei fod wedi mynd i mewn i’r ciwbicl wrth i ddyn arall ddod allan.
Ffynhonnell: Manchester Evening News, 2 Chwefror 1977
1980
Gwrthododd Cyngor Sir Clwyd gais gan undeb i gynnwys cymal ynglŷn â pheidio â gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn eu telerau ac amodau cyflogaeth.
Mae’r ddelwedd ganlynol yn cynnwys testun sydd efallai ddim yn hygyrch i rai pobl. Mae’r testun yn y ddelwedd yn Saesneg. Gweld y testun mewn fformat mwy hygyrch..

Ffynhonnell: Cofnodion, Is-bwyllgor Personél Cyngor Sir Clwyd, 10 Mehefin 1980 1980
1982
Roedd llythyr gan Jane Roberts i’r Caernarvon and Denbigh Herald ynglŷn ag obsesiwn y cyfnod gyda brwydo ac ymgyrchu dros achos teilwng neu leiafrif ethnig, yn cynnwys y paragraff hwn (cyfieithiad):
Canfu pobl gyfunrywiol neu drawswisgwyr ffordd o fynegi eu teimladau mewn drama a phantomeim, ac ati. Heddiw, anaml y bydd pobl gyffredin yn cael cyfleoedd o’r fath. Dyna pam mae gan bobl gymaint o obsesiwn gydag ymgyrchu ar ran grwpiau ymylol. Mae’n rhaid cadw cymunedau bach yn fyw er lles ein callineb yn ogystal â’n hunaniaeth.
Ffynhonnell: Caernarvon and Denbigh Herald, 27 Awst 1982
Bu farw’r Cymro Terry Higgins o AIDS yn Ysbyty St Thomas, Llundain. Sefydlodd ei bartner Rupert Whitaker a’i ffrind Martyn Butler Ymddiriedolaeth Terry Higgins (a ddaeth wedyn yn Ymddiriedolaeth Terrence Higgins), elusen AIDS gyntaf y DU.
1984
Daeth Christine Evans (1943-) yr wrolegydd nodedig, i’r Rhyl a chynnal llawer o lawdriniaethau newid rhyw (llawdriniaethau ailbennu rhywedd) yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, Sir Ddinbych. Parhaodd Miss Evans i wneud y llawdriniaethau hyn tan 2004 pan ymddeolodd, ac arweiniodd hynny hefyd at gwymp gwasanaeth Hunaniaeth Rhywedd gogledd Cymru a oedd wedi ei leoli yn Ysbyty Bangor (Dr Kenny Midence, seiciatrydd), Ysbyty Brenhinol Alexandra, y Rhyl (Dr Stephen Wong, endocrinolegydd), ac Ysbyty Maelor Wrecsam (Martin Riley, rhywolegydd). Ni fu gwasanaeth cyflawn yng ngogledd Cymru wedyn tan 2022, pan ailsefydlodd Gwasanaeth Rhywedd Cymru Glinig Rhywedd ategol yng ngogledd Cymru yn Ysbyty Cymuned Treffynnon.
Etholwyd yr AS Chris Smith, gan ei wneud y gwleidydd cyntaf yn senedd y DU i fod yn agored ynglŷn â bod yn gyfunrywiol.
Lansiwyd Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr – ymgyrch o gefnogaeth gan bobl LHDT+ i weithwyr a oedd ar streic yn ystod Streic y Glowyr ym 1984 a 1985. Mae’r ffilm Pride yn ymdrin â’r stori.
1987
Ymosododd cyn arweinydd grŵp Llafur Cyngor Delyn ar gefnogaeth “wrthun” y blaid i bobl gyfunrywiol. Honnodd Darrell Evans, a gafodd ei ddiystyru gan y blaid, yn ei daflen etholiadol “Bu’n rhaid i ymgeiswyr Llafur Swyddogol arwyddo ymrwymiad i gael gwared ar y Maer a chefnogi darparu canolfannau i bobl gyfunrywiol. Ni fyddwn yn ymrwymo fy hun i hyn ac felly cefais fy nad-ddethol. Cyn belled ag y mae hoywon a lesbiaid yn y cwestiwn, mae fy moeseg bersonol yn gwneud i mi deimlo fod y gwyrdroad hwn yn wrthun.” Dywedodd Trish Williams, swyddog y wasg Plaid Lafur Delyn, ‘roedd y syniad o sefydlu canolfan i’r gymuned gyfunrywiol yn Nelyn yn chwerthinllyd … ond roedd pob sosialydd yn rhwym i gefnogi hawliau pob grŵp lleiafrifol, gan gynnwys hawliau cyfunrywiol.’
Ffynhonnell: Evening Leader, 24 Ebrill 1987
1988
Deddfwyd Adran 28 Deddf Llywodraeth Leol 1988 fel gwelliant i Ddeddf Llywodraeth Leol 1986 y Deyrnas Unedig ar 24 Mai 1988, yn datgan na ddylai awdurdod lleol “yn fwriadol hyrwyddo cyfunrywioldeb na chyhoeddi deunydd gyda’r bwriad o hyrwyddo cyfunrywioldeb” na “hyrwyddo addysgu mewn unrhyw ysgol a gynhelir fod cyfunrywioldeb yn dderbyniol fel perthynas deuluol honedig”.
Ni chafwyd unrhyw erlyniad dan Adran 28 oherwydd nid oedd unrhyw un yn gwybod beth oedd ‘hyrwyddo’ yn ei olygu na beth oedd ‘perthynas deuluol honedig’.
1994
Mae’r ddelwedd ganlynol yn cynnwys testun sydd efallai ddim yn hygyrch i rai pobl. Mae’r testun yn y ddelwedd yn Saesneg. Gweld y testun mewn fformat mwy hygyrch.

Ffynhonnell: Gay Times, Ebrill 1994
1995
Trywanwyd Edward Carthy, 28 mlwydd oed, i farwolaeth yng Nghoedwig Clocaenog ym mis Hydref gan lofrudd lleol a gyfarfu mewn bar hoyw.
1997
Yn y Rhyl ym 1997 – yr un flwyddyn â datganoli Cymru – sefydlodd Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl, a sefydlwyd i gefnogi pobl ifanc hoyw a lesbiaidd yn eu harddegau, grŵp cefnogi LHDT o’r enw Deuce (a ailenwyd yn ddiweddarach yn VIVA). Mae’n dal i fodoli heddiw ac yn parhau i fod wedi ei ganoli yn y Rhyl. Maent bellach yn cynnal cyfarfodydd yng Nghyffordd Llandudno, y Rhyl, Wrecsam a’r Wyddgrug, a grŵp ar y cyd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Maent hefyd yn rhedeg cynllun tai gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alyn ar gyfer pobl ifanc LHDTRhC+ hyd at 28 mlwydd oed. (Gweler 2021 “Ty Pride”).
Gwasanaethau Arbenigol Viva LHDT a chefnogaeth uniongyrchol ar gyfer pobl ifanc LHDTC+ (14-25 mlwydd oed) a’r rheiny sy’n cwestiynu eu cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd a’u teuluoedd / gofalwyr, wedi eu lleoli yn y Rhyl ac yn cwmpasu gogledd Cymru gyfan.
1998
Cyflwynodd AS Llafur Ann Keen o Fwcle, Clwyd ddiwygiad i’r oedran cydsynio yn y Mesur Trosedd ac Anhrefn sy’n cael ei basio yn Nhŷ’r Cyffredin gyda mwyafrif o 207. Fodd bynnag, y mis canlynol, cafodd hyn ei daflu allan gan yr Arglwyddi, gyda phleidlais o 290 i 122 yn ei erbyn. Ailgyflwynodd y llywodraeth y mesur ym mis Ionawr 1999, gan ennill mwyafrif o 183 yn Nhŷ’r Cyffredin y tro hwn. Ond, er gwaethaf apêl angerddol gan weinidog y Swyddfa Gartref, yr Arglwydd Williams, a anogodd arglwyddi i roi cydraddoldeb uwchlaw’r gyfraith droseddol, fe’i gwrthodwyd eto gan Dŷ’r Arglwyddi – a ysgogwyd gan y Farwnes Young a oedd yn pryderu am ‘werthoedd teuluol’… Rhybuddiodd Iarll Russell o’r Democratiaid Rhyddfrydol y Farwnes Young y byddai’r llywodraeth yn defnyddio’r Ddeddf Seneddol na ddefnyddir yn aml, gan ganiatáu iddynt basio’r Mesur yn gyfraith heb ganiatâd yr Arglwyddi. “Nid wyf yn credu y bydd llai o weithredoedd cyfunrywiol os byddwch chi’n llwyddiannus,” meddai wrthi… Ar 30 Tachwedd 2000, ar ôl hwylio trwy Dŷ’r Cyffredin unwaith yn rhagor ac, yn ôl y disgwyl, cael ei rwystro gan Dŷ’r Arglwyddi, cyflawnodd y llywodraeth ei bygythiad. Ychydig oriau yn ddiweddarach, cafodd y Mesur Gydsyniad Brenhinol.
Ffynhonnell: Hugh Kaye, ‘Equal Age of Consent: A Comprehensive History of The Battle for Gay Parity’ yn Attitude, Rhagfyr 2020
1999
Mae’r ddelwedd ganlynol yn cynnwys testun sydd efallai ddim yn hygyrch i rai pobl. Mae’r testun yn y ddelwedd yn Saesneg. Gweld y testun mewn fformat mwy hygyrch.

Ffynhonnell: Gay Times, Awst 1999
