skip to main content

LHDTC+ 21ain Ganrif

2000

Rhestrwyd y canlynol yn adrannau hysbysebu’r Gay Times fesul sir (cyfieithiad):

Parcio. Gwesty Talardy Park, Llanelwy, ger yr A55. 01745-584-957. Sa. Ffoniwch am ddyddiadau 9-2. Dim Tmrs.

Grŵp Ieuenctid LHD Dan 26. Y Rhyl, Isabel: 351 293

Switsfwrdd LHDT ddydd Gwener 7-9pm. 337070

Ffynhonnell: Gay Times, Chwefror 2000)


Y 15/20 Club, a fu ym mherchnogaeth Albert Dyson, brodor o’r Rhyl, rhwng tua 1960 a 1980. Cafodd ei ddisgrifio gan sawl tyst fel clwb hoyw, a dywedodd Dyson ei hun wrth y Tribiwnlys ei fod yn lleoliad ar gyfer pobl hoyw ar nosweithiau Sadwrn, a drefnid gan grŵp o’r Rhyl, yn ystod 18 mis i ddwy flynedd olaf ei fodolaeth.

Ffynhonnell: Ar Goll Mewn Gofal: Adroddiad y Tribiwnlys Ymchwilio i Gam-drin Plant Mewn Gofal yn Hen Ardaloedd Cyngor Sir Gwynedd a Clwyd er 1974 (Yr Adran Iechyd, 2000)

2002

Unique Transgender Network

Sefydlwyd Rhwydwaith Trawsryweddol Unique yn yr Wyddgrug ym mis Chwefror 2002, ond mae wedi ei leoli yn y Rhyl, Sir Ddinbych, ers 2005. Mae Unique, y grŵp cefnogi Traws* mwyaf yng ngogledd Cymru, yn grŵp hunangymorth a chymdeithasol gwirfoddol sy’n cefnogi pobl Draws (trawsryweddol) / amrywiol o ran rhywedd ledled gogledd Cymru. Mae Unique yn cael ei redeg gan bobl Draws, ac mae aelodaeth y grŵp yn adlewyrchu’r holl sbectrwm Traws / rhywedd anghydffurfiol. Mae’n darparu gwybodaeth gyfredol i gynorthwyo pobl wrth wneud penderfyniadau a gwrthsefyll yr anwybodaeth a’r rhagfarn a brofir o hyd. Mae Unique hefyd yn rheoli tŷ’r Gymuned Draws, lle gall pobl fynegi eu hunaniaeth rhywedd a magu hyder i fod “allan” fel nhw eu hunain. Mae’n lle tawel i gyplau drafod a chael gwybodaeth ynglŷn â materion hunaniaeth rhywedd, ac mae’n lloches ar gyfer pobl draws sydd wedi cael eu gwneud yn ddigartref yn sydyn. Mae hefyd yn darparu llety ar gyfer troseddwyr traws sydd newydd eu rhyddhau neu rhai sydd ar absenoldeb awdurdodedig. Yn ogystal, mae’n cefnogi pobl Draws, nad oes ganddynt gefnogaeth gartref, ar ôl llawdriniaeth cadarnhau rhywedd. Fe’i defnyddir ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau, grwpiau ffocws, ac ati, a chan grwpiau LHDT+ lleol eraill, ac mae’n gartref gwyliau ar gyfer aelodau’r gymuned LHDT+ am hyd at 3 wythnos o wyliau.

Prif bwrpas Unique yw cynorthwyo pobl Draws i dderbyn eu hunain a chael eu derbyn gan eraill. Rydym yn hyrwyddo’r sgiliau mae pobl draws eu hangen i ryngweithio’n gymdeithasol yn eu rhywedd priodol, a rhoi cipolwg i bobl yn gyffredinol i’r enfys o amrywiaeth sydd yna o ran rhywedd. Cyflawnir hyn drwy gyfoeth y grŵp o brofiad personol a chysylltiadau defnyddiol drwy’r gymuned leol a’r gymuned i gyd ledled Cymru, yn ogystal â phroffesiynau gofalu.

Mae Unique yn cyfarfod chwe gwaith y mis mewn amgylcheddau cyfeillgar a diogel yn y Rhyl, Prestatyn, Bangor a Glannau Dyfrdwy, lle gall pobl amrywiol o ran rhywedd gyfarfod, canfod cefnogaeth a gwneud ffrindiau. Mae Unique yn grŵp cynhwysol sy’n croesawu’r holl bobl Draws o bob amrywiaeth rhywedd, ac mae’n cynnwys partneriaid, ffrindiau ac unrhyw un sy’n dymuno cefnogi a deall y gymuned Drawsryweddol yn well.

Un o brif amcanion Unique yw ymgysylltu â’r gymuned ehangach – y bobl Draws hynny sydd angen cymorth ac anogaeth, ac addysgu’r cyhoedd i hyrwyddo ymwybyddiaeth a chydraddoldeb ar gyfer pobl Draws. Mae Unique yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn ystod eang o weithgareddau i hwyluso gwell dealltwriaeth o faterion Traws a gwella cysylltiadau rhwng y gymuned drawsryweddol a’r gymuned yn ehangach. Mae Unique wedi casglu gwybodaeth helaeth ynglŷn â’r gymuned drawsryweddol, a magu profiad eang o’r gymuned, er mwyn darparu hyfforddiant arbenigol ar ymwybyddiaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth o ran pobl Draws. Hyd yn hyn mae wedi darparu dros 850 o gyrsiau i bron i 180 o wahanol sefydliadau.

Mae Unique yn ymgynghori â nifer o sefydliadau ar y materion hyn, gan gynnwys cynghorau lleol, prifysgolion, Iechyd Cymru, yr Heddlu, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf, a Fforwm Seneddol y DU ar hunaniaeth rhywedd.

Mae’n ysgrifennu ac yn gwirio polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth a pholisïau trawsnewid ar gyfer ystod eang o sefydliadau.

Mae Unique hefyd yn bartner ym mhrosiect TrAC (Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Bobl Draws Hŷn) gyda Phrifysgol Abertawe. Mae hefyd yn cynnal 10 cyfarfod cymdeithasol ar-lein dros Zoom bob mis i estyn llaw at aelodau ynysig o’r gymuned a’r rheiny na allant fynd i’r cyfarfodydd byw.

Mae *Traws yn derm ymbarél sy’n cynnwys unrhyw rai sy’n teimlo fod y rhyw / rhywedd a bennwyd iddynt pan gawsant ei geni (gwryw neu fenyw) naill ai’n anghywir neu’n ddisgrifiad anghyflawn ohonynt.

2003

Unigolyn trawsrywiol yn prynu nifer o westai (aralleiriad o ‘Transsexual buys string of hotels’)

Mae Stephanie Booth, a garcharwyd unwaith am werthu pornograffi, ac sy’n rhedeg gwefan newid rhyw a chroeswisgo a chasgliad o siopau dan yr enw masnachu “Transformation”, wedi prynu pump o westai a thafarndai yn Rhuthun. Ynghyd â’i gŵr, David Booth, prynasant Blas Bodidris, Llandegla (sy’n 600 mlwydd oed); Gwesty’r Plough, Llandegla; Gwesty’r Angor, Rhuthun; Gwesty’r Castell a’r Myddleton Arms yn Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun; a bwyty’r Clwyd Gate, rhwng yr Wyddgrug a Rhuthun.

Sefydlodd yr Albany Clinic fel canolfan lle gall pobl drawsrywiol gael cyngor ac arweiniad meddygol arbenigol ar eu cyflwr. Bu’n serennu mewn cyfres deledu realaeth yn ymwneud â’i busnesau ar BBC Wales yn 2008 a 2009 – ‘Hotel Stephanie’. Aeth ei gwestai i ddwylo’r gweinyddwyr yn 2011. Ar 18 Medi 2016, lladdwyd Booth mewn damwain tractor ar ei fferm ar gyrion Corwen, Sir Ddinbych.

Ffynhonnell: Daily Post, 3 Gorffennaf 2003; Wikipedia


Sefydlwyd Grŵp Croeswisgo Odyssey ym Mhrestatyn yn 2003, ac mae’n cyfarfod yn fisol yn Offa’s Tavern i gefnogi pobl sy’n croeswisgo a phobl androgynaidd. Yn 2005, mae’n dod yn rhan o Unique.


Mewn Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, rhoddodd John Sam Jones dystiolaeth, gan ddechrau fel hyn (cyfieithiad):

Fy enw yw John Sam Jones. Rwy’n Gymro Cymraeg o Feirionnydd (yn wreiddiol). Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Ymgynghorydd ar Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) yng Ngwasanaeth Addysg Sir Ddinbych. Am y bum mlynedd ddiwethaf rwyf wedi cadeirio Grŵp Cyswllt yr Heddlu a Phobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) Gogledd Cymru, ac am y 18 mis diwethaf rwyf wedi bod yn gadeirydd Fforwm LHD Cymru. Ar ddau achlysur yn ystod y pedair blynedd diwethaf rwyf wedi bod yn ymddiriedolwr Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl. Fi yw awdur Welsh Boys Too (Parthian, Cardiff, 2000) – casgliad o storïau byrion am fywydau dynion hoyw yng ngogledd Cymru. Enillodd y casgliad hwn o storïau wobr ‘Honour Book’ yng Ngwobrau Llyfrau LHD yr American Library Association yn 2002. Rwy’n 46 mlwydd oed ac wedi bod yn byw’n agored fel dyn hoyw ers oeddwn i’n 18 mlwydd oed.

Gellir gweld adroddiad llawn John ar wefan LGBTQ Cymru (gwefan allanol), yn yr adran Blogs.

2004

Mae Sara Sugarman, a anwyd ar 13 Hydref 1962 yn y Rhyl yn actores a gwneuthurwr ffilmiau. Dywedir iddi gyfarwyddo’r ffilm Coming Out, am dîm rygbi o Gymru, gydag Alan Cumming a Catherine Zeta-Jones yn serennu. Wedi ei seilio ar syniad gan frawd Catherine, mae’r ffilm yn adrodd stori tîm rygbi anlwcus o Gymru. Eisoes yng nghanol problemau methdalu, mae’r tîm yn cael anlwc arall pan fo’r hyfforddwr yn marw’n sydyn. Nid oes gan y perchennog newydd, mab yr hyfforddwr, unrhyw brofiad o gwbl o rygbi. Yn hytrach, roedd y cymeriad hwn (a bortreadir gan Cumming) yn arfer gweithio fel actor yn y West End. Ac mae’n ddyn cyfunrywiol lliwgar. Yr hyn sy’n dilyn yw portread doniol o ragfarnau pobl trefi bychain â meddyliau bychain.

Mae’n ymddangos na chafodd y ffilm ei gwneud.

Ffynhonnell: Box Office Prophets, Coming Out, ar gael ar-lein.

2007

Cynhaliwyd digwyddiad ‘Siarad yn Rhwydd’ (‘Speak Easy’) gan Fforwm LHD Gogledd Cymru ddiwedd mis Tachwedd 2007 er mwyn i ddarparwyr gwasanaeth ymgynghori â phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) lleol. Gweithiodd Stonewall Cymru mewn partneriaeth â Phrosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl i drefnu’r digwyddiad, a ariannwyd fel ffrwyth llafur Prosiect Inside-Out.

Ffynhonnell: Stonewall Cymru, Adroddiad Fforwm Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol Gogledd Cymru, 2007


2008 – Daeth Angela Eagle yr AS benywaidd cyntaf i ffurfio partneriaeth sifil (gyda’i phartner Maria Exall).

2009

Daeth seren rygbi Cymru, Gareth Thomas, yr athletwr proffesiynol lefel uchaf cyntaf y gwyddys amdano mewn chwaraeon tîm i ddod allan tra’r oedd yn dal i gymryd rhan mewn chwaraeon proffesiynol.


Datgelodd Heddlu Gogledd Cymru ffigurau ‘annerbyniol’ yn dangos bod 186 o bobl yn Sir y Fflint wedi dioddef troseddau casineb yn ystod y tair blynedd diwethaf – ond roedd 67% o achosion heb eu datrys gan yr heddlu. Roedd 23 o ddigwyddiadau homoffobig ers 2007 ac un drosedd drawsffobig – sef ymosodiad ar berson trawsryweddol neu drawsrywiol.

Ffynhonnell: Eleanor Barlow, ‘North Wales Police reveals Flintshire hate crime figures’, Flintshire Chronicle, 31 Rhagfyr 2009

2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwneud gwahaniaethu yn erbyn pobl lesbiaidd a hoyw wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau yn anghyfreithlon.


Ym mis Awst, dechreuodd Unique Arddwestau LHDTRhC+ blynyddol yn y Rhyl.


Cafodd Andrew Rudd ei garcharu am dros ddwy flynedd ar ôl rhoi tafarn, The Lifeboat yn Sandycroft ar dân. Daeth ei bartner, Nathan Griffiths, 34, i adnabod Rudd, a  oedd hefyd yn cael ei alw yn Drew, pan oedd y ddau yn gweithio yn nhafarn The Dee Inn yn y Fflint, yn 2006. Buont yn rhedeg tafarn The New Inn, Sandycroft, gyda’i gilydd am flwyddyn, cyn symud i The Lifeboat. Nid oedd Nathan, o Goed Onn Road, y Fflint, yn gwybod pam y dechreuodd Drew y tân, ac roedd wedi cael trafferth gydag iselder ers hynny, ond roedd yn bwriadu cychwyn grŵp cymorth i bobl hoyw a lesbiaidd i helpu pobl i oresgyn trawma personol. Gwnaeth y cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd y Fflint gais am gyllid yn y gobaith y byddai ‘Rainbow – Making Life Brighter’ yn dechrau.

Ffynhonnell: Dave Goodban, ‘Flint man speaks out after ex-partner is jailed for Deeside pub arson’ Flintshire Chronicle, 28 Ionawr 2010

2013

Cynhaliwyd prosiect gan Dr Paul Willis, Prifysgol Abertawe, ar gyfer darpariaeth gwasanaethau cynhwysol a gwrth-wahaniaethol i bobl hŷn sy’n cyfrif eu hunain yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol (LHD) mewn amgylcheddau gofal preswyl yng Nghymru. Anfonwyd holiaduron i safleoedd yn awdurdodau lleol Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych ac Abertawe, a ddewiswyd ar hap.

Ffynhonnell: Provision of inclusive and anti-discriminatory services to older lesbian, gay, bisexual identifying (LGB) people in residential care environments in Wales, Adroddiad Llawn gan Dr Paul Willis, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe 28/06/2013


Anogodd yr heddlu aelodau o’r gymuned hoyw yng Nghaer a Gogledd Cymru i ddweud eu dweud ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Yn dilyn llwyddiant tri Chyfarfod Gweithredu Cymunedol LHDT a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol, sefydlodd Rhingyll Mandy Shaw, swyddog cyswllt LHDT Caer, gyfarfod arall yn y Liverpool Arms, Northgate Street, Caer. Croesawyd y symudiad gan Encompass, y rhwydwaith gwybodaeth a chymorth yn Sir y Fflint ar gyfer pobl LHDT. Dywedodd y Cydlynydd, Salli Edwards: “Yn anffodus mae pobl hoyw yn dal i ddioddef ymddygiad ymosodol, troseddau casineb a gwahaniaethu. Mae’r cyfarfodydd hyn yn gyfle i hysbysu’r heddlu am brofiadau lleol ac yn gyfle i drafod ffyrdd ymarferol y gallant helpu.”

Ffynhonnell: North Wales Live, 19 Ebrill 2013


Mae Encompass yn grŵp cymdeithasol / gwybodaeth hunan-drefnus. Grŵp cynnes, cyfeillgar o bobl a ffrindiau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws sy’n cyfarfod â’i gilydd i roi cyfle i gwrdd â phobl hoyw, lesbiaidd, deurywiol a Thraws eraill mewn lleoliad anffurfiol a diogel. Mae ganddyn nhw gyfrif X (Twitter) yn @EncompassLGBT


Ffurfiwyd Rustic Rainbow, grŵp anffurfiol ar gyfer pobl LHDT sydd wrth eu boddau â harddwch naturiol gogledd Cymru, yn 2013. Mae’n darparu amgylchedd braf er mwyn i bobl LHDT allu gwneud ffrindiau a mwynhau gweithgareddau gyda’i gilydd fel cerdded, mynd i’r sinema a thripiau. Mae Rustic Rainbow yn grŵp cymdeithasol nad yw’n ymwneud â’r ‘sin’. Golyga hyn nad yw’r gweithgareddau fel arfer yn digwydd mewn bariau neu glybiau, fodd bynnag byddant yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau Balchder lleol, ac mae’r aelodau’n rhydd i gael trefnu digwyddiadau cysylltiedig mewn bariau drwy’r grŵp. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Facebook y grŵp.

2014

Mae priodasau cyplau o’r un rhyw yn dod yn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr ar 29 Mawrth dan Ddeddf Priodas (Cyplau O’r Un Rhyw) 2013.


Yn y flwyddyn hon rhyddhawyd y ffilm ‘Pride’. Roedd yn seiliedig ar stori wir, yn portreadu grŵp o weithredwyr lesbiaidd a hoyw a fu’n codi arian i gynorthwyo teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan Streic y Glowyr ym 1984, ar ddechrau’r hyn a fyddai’n datblygu i fod yn ymgyrch Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr. Gethin, rheolwr siop lyfrau ‘Gay’s the Word’, yw’r unig gymeriad hollol ffuglennol yn y stori. Roedd wedi dianc o’r Rhyl un mlynedd ar bymtheg ynghynt a heb fod yn ôl o gwbl, ac wrth iddo fynd ar bererindod gartref i’r Rhyl mae’n gorfod wynebu ei fam anfaddeugar.


Hedfanodd Cyngor Sir y Fflint faner yr enfys y tu allan i Neuadd y Sir ar gyfer Mis Hanes LHDTC+. Y flwyddyn flaenorol dyfarnwyd y teitl ‘Cyflogwr Cymraeg sydd wedi Gwella Fwyaf’ i’r Cyngor gan Stonewall, yr elusen lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae mynegai’r elusen yn ymarfer meincnodi blynyddol sy’n rhestru’r cyflogwyr gorau ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ym Mhrydain. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: “Mae baner yr enfys yn ddatganiad pwysig i Gyngor Sir y Fflint. Mae codi’r faner drwy gydol mis hanes LGBT yn rhoi’r neges glir fod Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb nid yn unig o fewn y Cyngor ond hefyd yn ein cymuned ehangach.”

Ffynhonnell: Gwefan Sir y Fflint, Newyddion Diweddaraf, 17 Chwefror 2014 (nid yw’r neges wreiddiol ar y wefan bellach).

2015

Côr LHDT+ Spectrum of Sound – unig gôr LHDT+ gogledd Cymru. Mae’r grŵp yn croesawu pobl sydd â phrofiad blaenorol o ganu, a phobl sydd heb brofiad blaenorol hefyd, ac nid oes clyweliadau. Mae’n dod â chantorion LHDT+ o bob gallu ynghyd mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol, gan rannu eu cerddoriaeth gyda’r gymuned. Fe’i sefydlwyd yn y Rhyl, ac yno maent yn ymarfer. Yn 2020 unwyd y côr â Chôr LHDT+ Proud Marys yng Nghaer. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Facebook y côr, neu drwy e-bostio [email protected]


Jenny-Anne Bishop o’r Rhyl, Gweithredydd Traws a Chadeirydd Rhwydwaith Trawsryweddol Unique yn derbyn OBE yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2015 am wasanaeth i’r Gymuned Draws yng Nghymru. Mae wedi ymddangos ar Restr Binc Cymru sawl gwaith.


Ynghyd â Transforum Manchester, Manchester Concord a Via Bar ym Manceinion, sefydlodd Unique Ardd Goffa Draws gyntaf y byd yn Sackville Gardens, Manceinion, yn 2015, i goffáu’r holl bobl Draws a lofruddiwyd am fod yn bobl Draws, a’r holl bobl Draws a deimlodd dan bwysau i gyflawni hunanladdiad.


Richard Evans (left) and Russell Hughes

Cyrhaeddodd perchennog siop trin gwallt Russell Paul ym Mhrestatyn y tudalennau blaen pan roddodd arwydd yn y ffenestr yn datgan: “If you are racist, sexist, homophobic or an a***hole…don’t come in.” Rhoddodd yr arwydd yno wedi i gwsmer wrthod gadael i’r steilydd Richard Evans (uchod, ar y chwith) dorri gwallt ei fab ar ôl sylweddoli ei fod yn hoyw. “Mi ofynnodd a fyddwn i’n gallu’i dorri o” dywedodd Russell (uchod, ar y dde). “Ac mi atebais i ‘Na, achos dw i’n hoyw hefyd’!”

(Delwedd: ©Kelly Williams)

2016

Etholwyd Hannah Blythyn yn Aelod Cynulliad dros Delyn am y tro cyntaf yn etholiad 2016. Cyn cael ei hethol, bu Hannah yn arwain gwaith gwleidyddol a pholisi ar gyfer undeb Unite Wales, yn weithgar mewn sawl ymgyrch lwyddiannus a arweiniodd at weithredu deddfwriaethol a newid cadarnhaol yng Nghymru a ledled y DU. Mae hi hefyd yn gyn gyd-gadeirydd Llafur LGBT ac roedd yn weithgar yn yr ymgyrch dros briodas gyfartal. Ar 13 Rhagfyr 2018 penodwyd Hannah yn Ddirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac yn Ddirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar 13 Mai 2021. Yn 2019, priododd Hannah a’i gwraig Laura.

Ffynonellau: Gwefan Llywodraeth Cymru / Welsh Government; Ruth Mosalski, ‘Wales’ first openly gay female AM Hannah Blythyn on coming out, marrying a woman and fighting for equality’ yn WalesOnline, 28 Chwefror 2019


Ymunodd saith deg o bobl â’r Gwir Barch. Gregory Cameron am wasanaeth Cymun i nodi’r lansiad ffurfiol yn Eglwys Sant Grwst, Llanrwst, ar 12 Medi 2016. Arweinir y gaplaniaeth gan y Parch. Sarah Hildreth-Osborn, a bydd safle i’r gaplaniaeth yn Eglwys Sant Grwst lle mae Sarah yn ficer. Bydd dwy eglwys arall yn yr esgobaeth – Eglwys San Pedr yn Nhreffynnon ac Eglwys San Silyn yn Wrecsam – hefyd yn cynnal gwasanaethau Cymun ‘Bwrdd Agored’ rheolaidd ar gyfer Cristnogion LHDTCRhA+. Dywedodd yr Esgob Gregory (cyfieithiad): ‘Sefydlwyd y Gaplaniaeth hon oherwydd bod gan y ffydd Gristnogol rywbeth i’w gynnig i bawb, gan gynnwys pobl LHDTCRhA+. Mae’n ymwneud â chreu man diogel, cysegredig, ac ymestyn cyfeillgarwch. Mae’n rhaid i’r Eglwys fod yn feiddgar a chael gwared â’r ymdeimlad o homoffobia, casineb a chondemniad tuag at bobl o wahanol rywioldebau.’

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru lythyr bugeiliol ar y cyd yn ymrwymo i weithio tuag at gael Eglwys lle mae pobl hoyw a lesbiaidd yn cael eu “cadarnhau’n gyfan gwbl fel disgyblion hafal”, ac i weddïo gyda nhw a throstyn nhw. Ymddiheurwyd hefyd i bobl hoyw a lesbiaidd am yr erlid a’r gamdriniaeth maent wedi eu dioddef gan yr Eglwys. Ochr yn ochr â’r llythyr, cyhoeddodd yr Esgobion gyfres o weddïau y gellir eu hadrodd gyda chwpl yn dilyn dathlu partneriaeth sifil neu briodas sifil. Bydd Caplaniaeth LHDTCRhA+ Llanelwy yn cyfarfod yn fisol o fis Ionawr 2017. Mae manylion y cyfarfodydd cyntaf yma (gwefan allanol).

Ffynhonnell: The UK’s first LGBTQIA+ chaplaincy officially launched, Open Table, 13 Medi 2016. Ar gael ar-lein.

2017

Cynhaliwyd Lifted By Beauty: Adventures in Dreaming gan National Theatre Wales yn y Rhyl fel ysbrydoliaeth ar gyfer cyfres o osodweithiau rhyfeddol, swreal a breuddwydiol ar y promenâd. Roedd yn sioe 90 munud yr oeddech yn cerdded drwyddi, roeddech yn cael eich trochi yn synhwyraidd, ond nid oedd yn rhyngweithiol. Wedi i’r gynulleidfa glywed dyn yn cuddio mewn bocs cardfwrdd yn canu yn y Gymraeg iddynt, ac yna wrando ar ddyn sy’n gwisgo fel rhywbeth tebyg i Swyddog Safleoedd Troseddau neu wenynwr yn darllen barddoniaeth, maent yn cael eu hebrwng i faes parcio budr, tywyll, llaith dan ddaear, lle mae ffantasi yn cymryd drosodd oddi wrth fywyd go iawn.

Ffynhonnell: Art Scene in Wales, Mawrth 2017. Ar gael ar-lein.


Mae ‘Queering the Map’ yn fenter o Ganada i greu platfform cydweithredol a gwrthfapio cymunedol ar-lein lle mae defnyddwyr yn cyflwyno eu profiadau cwiar personol i leoliadau penodol ar un map cyfunol. Ers ei sefydlu, mae defnyddwyr wedi cyfrannu mwy na 500,000 o bostiadau mewn 23 o ieithoedd ar y platfform. Mae sawl person wedi gadael pinnau yn Sir y Fflint.

2018

Mae DJ Stephine, yr Artist Drag, yn ymddangos yn fyw yn Lola Bar, Prestatyn, o 9pm tan 2am ar nos Wener a nos Sadwrn.

2019

Brenhines ddrag yn dod i adrodd storïau yn llyfrgelloedd gogledd Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn yn dilyn taith o gwmpas UDA a Chanada. Yn y sesiynau hyn ar gyfer y teulu roedd Mama G yn darllen storïau i blant am awr, a’r nod oedd ceisio herio stereoteipiau rhywedd. Dywedai’r trefnwyr mai bwriad pob sesiwn oedd addysgu pawb am garedigrwydd, cynhwysiant, goddefgarwch a derbyn, gan hefyd ddathlu amrywiaeth a charu pwy bynnag y dymunech.

Ffynhonnell: Zara Whelan, ‘A drag queen story-telling event is coming to North Wales libraries,’ North Wales Live, 21 Chwefror 2019


Lansiwyd Gwasanaeth Rhywedd Cymru (gwefan allanol) ym mis Medi 2019.

Welsh Gender Service

Lansiwyd cynllun tai ar gyfer aelodau diamddiffyn o’r gymuned LHDTC+ yn Sir Ddinbych cyn Nadolig 2019. Darparodd Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) wasanaethau cefnogi preswyl 24 awr ar gyfer pobl 16 i 25 mlwydd oed yn y sir sy’n cyfrif eu hunain yn bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwiar neu hunaniaeth rywiol arall. Mae’r cynllun yn dilyn ymchwil a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a ganfu fod pobl ifanc LHDTC+ bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddigartref na’u cyfoedion.

Ffynhonnell: Scott Clarke, ‘Residential support scheme for LGBTQ+ homeless in Denbighshire’, Free Press, 18 Tachwedd 2019. Ar gael ar-lein.


Fel rhan o dymor ‘Changing Face of Wales’, gofynnwyd i 1,000 o bobl yng Nghymru pa mor gyfforddus yr oeddent yn teimlo am oedolion mewn perthnasoedd un rhyw. Dangosodd y canlyniadau fod 83% yn dweud eu bod naill ai’n eithaf cyfforddus neu’n gyfforddus iawn. Ond dywedodd 15% nad oedden nhw’n gyfforddus o gwbl neu nad oeddent yn gyfforddus iawn, tra bod 2% yn ansicr sut roedden nhw’n teimlo. Cafodd Sarah Way, 45 oed o Shotton, Sir y Fflint, ei bwlio yn yr ysgol. “Byddai pobl yn eich gwatwar, gan ddefnyddio geiriau difrïol oherwydd eich bod yn hoffi merch arall. Hyd yn oed yn y 1980au roedd bod yn y gymuned LHDT yn hynod o anodd i lawer o bobl – yn enwedig yn yr argyfwng Aids, rwy’n meddwl bod etifeddiaeth hynny wedi parhau i’r 90au, ond rwy’n meddwl bod llawer mwy o bobl yn dod allan rŵan. Mae wedi ei wneud yn fwy derbyniol ac mae cymaint mwy o ddigwyddiadau ‘pride’ yn digwydd ym mhob dinas nawr.”

Ffynhonnell: BBC Cymru/ICMUnlimited, ‘How comfortable do you feel about an adult being in a same sex relationship?’, Chwefror 2019

2020

Dyfyniad o Gynllun Cydraddoldeb Strategol Sir y Fflint 2020-2024

Dywedodd Stonewall Cymru fod dros hanner pobl ifanc LHDT Cymru (54%) a bron i dri chwarter pobl ifanc trawsrywiol (73%) yn cael eu bwlio yn yr ysgol am fod yn LHDT (Adroddiad Ysgol, Stonewall Cymru 2017).

Nododd y cyngor ei fod eisoes wedi cyflawni:

  • Datblygu a gweithredu polisi Traws ar gyfer ysgolion uwchradd
  • Wedi darparu hyfforddiant i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i gefnogi pobl ifanc LHDT
  • Sefydlu grŵp ieuenctid ar gyfer pobl ifanc LHDT gyda Viva, prosiect pobl ifanc

Erbyn 2024 byddent yn:

  • Cymryd rhan ym mis Hanes LHDT

Mae holiadur ar gyfer Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 ar gael ar hyn o bryd.

Ffynhonnell: Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir y Fflint 2020 – 2024 ar gael ar wefan y cyngor.

2021

Daeth Owen J. Hurcum y maer etholedig anneuaidd cyntaf yn y byd a’r ieuengaf erioed yng Nghymru, pan ddaeth yn faer Cyngor Dinas Bangor, Gwynedd.


‘Flwyddyn ar ôl adroddiad Llamau ar bobl ifanc ddigartref LHDTC+, mae prosiect byw â chymorth Tŷ Pride, sydd ar gyfer y gymuned LHDTC+ yn benodol, wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda mwy na deg gwaith yn fwy o atgyfeiriadau yn dod i law na’r nifer y gellir eu cartrefu. Mae hyn yn dangos yn glir yr angen am gymorth pwrpasol ar gyfer pobl ifanc LHDTC+ sy’n wynebu risg o ddigartrefedd. Mae’r ffaith bod cymaint o ddiddordeb ym mhrosiect Tŷ Pride, gan gynnwys oddi wrth awdurdodau lleol sy’n agos at Sir Ddinbych (lle mae Tŷ Pride wedi’i leoli), hefyd yn dangos bod angen gwasanaethau tebyg ledled Cymru. Mae’r prosiect cyntaf o’i fath hwn wedi llwyddo i helpu pobl ifanc LHDTC+ a darparu’r cymorth penodol sydd ei angen arnynt cymaint drwy grŵp cymorth LHDTC+ lleol Viva.’

Ffynhonnell: Stonewall Cymru, Adroddiad i Lywodraeth Cymru yn amlinellu’r argymhellion ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb LHDTC+ yng Nghymru, Mawrth 2021


Cwpl hoyw yn derbyn bendith hanesyddol gan yr Eglwys yng Nghymru. Credir mai’r Tad Lee a’i bartner Fabiano Da Silva Duarte yw’r cwpl cyntaf o’r un rhyw i gael ei fendithio’n swyddogol gan yr Eglwys yng Nghymru. Daw hyn wedi i gorff llywodraethu’r Eglwys gymeradwyo gwasanaeth bendithio newydd ar gyfer cyplau o’r un rhyw ym mis Medi. Fodd bynnag, nid aeth cyn belled â chaniatáu i gyplau o’r un rhyw briodi yn y plwyfi.

Ffynhonnell: Harry Farley, ‘Gay couple receive landmark Church in Wales blessing’, BBC News, 13 Tachwedd 2021


Roedd Esgob Llanelwy ymysg pedwar uwch arweinydd crefyddol a Seneddwyr a gydnabuwyd am eu gwaith arloesol ym maes rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd. Derbyniodd y Gwir Barch. Gregory Cameron wobr am ei arweiniad o fewn yr Eglwys yng Nghymru i ddod â hi i’r pwynt o ganiatáu bendithio cyplau o’r un rhyw.

Ffynhonnell: ‘Bishop Gregory Honoured for His “Outstanding Contribution To The Lives Of LGBT+ People Of Faith,’ Esgobaeth Llanelwy. Ar gael ar-lein.


Ymddangosodd swyddogion HGC De Sir y Fflint ar newyddion ITV Cymru am 6pm, yn siarad am bwysigrwydd amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant o fewn yr heddlu yn unol ag wythnos Pride Cymru. Mae fideo o’r darn i’w weld ar https://www.facebook.com/watch/?v=203479621827860

Rhannodd dinesydd o Rwmania ei stori am ddod o hyd i gartref a gyrfa dderbyniol yng Ngogledd Cymru. Symudodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Adelina Olaru, i’r DU am y tro cyntaf yn 2010 ar ôl datgelu i’w theulu ei bod yn hoyw ac nad oedd yn teimlo ei bod yn “perthyn”.  Ers hynny, mae hi wedi graddio gyda gradd mewn gwyddor fforensig ac ymchwilio troseddol o Brifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn, dod yn swyddog carchar a gwneud gwaith cadw mewnfudwyr anghyfreithlon ym mhorthladd Caergybi. Dechreuodd ei rôl fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu i Heddlu Gogledd Cymru ym mis Tachwedd 2020. “Rydw i wastad wedi bod eisiau gweithio i’r heddlu, hyd yn oed ers i mi fod yn blentyn,” meddai. “Roeddwn i eisiau bod yn swyddog yn Rwmania, ond mae’n anodd iawn mynd i mewn yno, felly wnes i erioed ei weld fel opsiwn i mi. Yna, pan gafodd fy nheulu wybod fy mod yn hoyw, darganfyddais yn gyflym nad oeddwn yn ffitio i mewn yn Rwmania mwyach. Doeddwn i ddim yn teimlo bod unrhyw un fy eisiau i yno; Roeddwn i’n 23 oed ar y pryd. Roedd gwahaniaeth diwylliannol mawr yno – nid oedd fy rhywioldeb yn cael ei dderbyn, ac nid yw priodas hoyw yn gyfreithlon. Felly, yn 2010, penderfynais symud i ffwrdd.”

Ffynhonnell: Andrew Nuttall, ‘Police officer shares her experience of ‘breaking down cultural barriers’ during career in Flintshire,’ The Leader, 25 Awst 2021


Cyfrifiad y DU 2021 oedd y cyntaf yn hanes y byd i gynnwys cwestiynau ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Dylid cymryd peth gofal wrth edrych ar y ffigurau gan nad atebodd pawb y cwestiwn.

2022

Unwaith eto dangosodd Cyngor Sir y Fflint gefnogaeth i fis hanes LHDT+ drwy godi baner enfys. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts: “Mae codi’r faner enfys yn bwysig i’r Cyngor. Mae chwifio’r faner drwy gydol mis hanes LGBT+ yn anfon neges glir ein bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor a’n cymuned ehangach.”

Ffynhonnell: Arron Evans, ‘Flintshire council supports LGBT+ History Month,’ The Leader, 17 Chwefror 2022

2023

Mae’r ddelwedd ganlynol yn cynnwys testun sydd efallai ddim yn hygyrch i rai pobl. Mae’r testun yn y ddelwedd yn Saesneg. Gweld y testun mewn fformat mwy hygyrch.

Invitation to Viva’s 25th birthday

17 Mehefin: “The first Rhyl Pride” yn cael ei gynnal yn y Bodfor, Stryt Bodfor, y Rhyl. Cynhaliwyd y digwyddiad gan y frenhines drag Shagger, gyda pherfformwyr megis Heather Marie (act deyrnged Pink), Dani Elle, Kelly J, Janet Myring a llawer mwy. Roedd yn llwyddiant ysgubol, a chyflwynwyd cynlluniau ar gyfer ail ddigwyddiad yn 2024.

Ffynhonnell: Rhyl Journal, 21 Mehefin 2023


Launch of the LGBTQ+ Timeline at Rhyl Library

28 Mehefin: Lansiad Llinell Amser LGBT yn Llyfrgell y Rhyl. Cafwyd sgyrsiau yn y digwyddiad gan yr hanesydd Noreena Shopwood a Lowri Jones, ac ymddangosodd fel Mary Carryl, morwyn Merched Llangollen. Torrwyd y rhuban i lansio’r llinell amser gan Noreena Shopland gyda chymorth gan Lowri Jones a Jenny-Anne Bishop OBE.


Soniodd heddwas o Sir y Fflint pa mor falch oedd o ar ôl derbyn gwobr am ei waith yn cefnogi’r gymuned LHDT+. Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol blynyddol Rhwydwaith Heddlu LHDT+ Cymru ym Mangor lle daeth y pedair cangen o rwydwaith cefnogi staff LHDT+ Heddlu Cymru at ei gilydd, a bu’n trafod cynnydd y rhwydwaith, a’r blaenoriaethau a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyflwyno Gwobr Rhagoriaeth Rhwydwaith Heddlu LHDT+ Cymru a roddwyd i Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Connor Freel o Heddlu Gogledd Cymru sy’n gweithio yn ardal De Sir y Fflint. Fel swyddog trawsryweddol, mae SCCH Freel yn treulio llawer o’i amser sbâr yn gweithio gyda’r gymuned i sefyll dros y rhai sy’n dioddef rhagfarn a gwahaniaethu.

Ffynhonnell: Steve Craddock, ‘Award for Flintshire PCSO for support of LGBT community,’ The Leader, 4 Gorffennaf 2023