LHDTC+ 17eg-18fed Ganrif
1699

Carreg fawr yw Maen Huail sydd yn Sgwâr Sant Pedr yng nghanol Rhuthun. Ceir plac wrth ei ymyl sy’n nodi mai yno, yn ôl traddodiad, y torrodd y Brenin Arthur ben Huail, brawd Gildas yr hanesydd. Mae cofnod o’r 1699 yn dweud bod y garreg yng nghanol y ffordd, ac mae bellach yn gorffwys ar blinth concrid yn erbyn wal fframiau pren adeilad banc Barclays. Ysgrifennwyd fersiwn o stori Arthur yn dienyddio Huail, a’r rheswm dros hynny, gan Elis Gruffydd (1490-1552), y croniclydd, trawsgrifydd a chyfieithydd Cymreig.
Gwisgodd Arthur ddillad merch er mwyn ymweld â merch yn Rhuthun. Roedd Huail yno, ac fe adnabu Arthur wrth iddo ddawnsio gyda’r merched, gan ei fod yn gloff. Dyma a ddywedodd: “Da iawn yw downshio velly oni bai’r glun.” Clywodd Arthur y geiriau, ac roedd yn gwybod pwy oedd wedi eu dweud nhw. Dychwelodd i’w lys, galwodd Huail i ddod ato a rhoddodd gerydd cas iddo am ei anffyddlondeb. Aethpwyd â Huail i Ruthun, lle torrodd Arthur ei ben ar garreg yn y farchnad. Gelwir y garreg hyd heddiw yn Faen Huail.
Ffynhonnell: The Cambrian News and Merionethshire Standard (5 Medi 1897)
1747
Almaenwr a ymgartrefodd yn Sir y Fflint tua 1747 oedd Diederick Wessel Linden. Daeth i ychydig o enwogrwydd fel ffisegydd a’i ysgrifau ar ddyfroedd ffynnon a’u rhinweddau iachaol, ac mae ganddo gysylltiad penodol â’r ffynnon yn Llandrindod. Ni wyddom lawer amdano, ond ysgrifennodd R.C.B Oliver o Landrindod fywgraffiad byr am Linden yn 1974. Roedd y meddyg ecsentrig ac aneglur yn un anghaffaeladwy ac mae Oliver yn nodi, tra roedd Linden yn Sir Frycheiniog, talodd yr atwrnai John Middleton Hope, y mae ei gyfrifon yn cynnwys tudalen gyda’r pennawd ‘Mr John Williams of Brecon’ a chofnod o ‘Dr. Linden against Allen’, gyferbyn â thair eitem ariannol o dan Hill 1759 ac eitem ariannol arall o dan Easter 1759. Mae Hill ac Easter yn cyfeirio at sesiynau yn yr Uchel Lys Barn. Ysgrifenna Oliver fod natur yr achos yn erbyn rhywun o’r enw Allen yn anhysbys, er bod yr enw o bosibl yn ymwneud â theulu adnabyddus o’r un enw ym mhlwyf Bryngwyn yn Sir Faesyfed. Yn amlwg yn 1974 nid oedd Oliver yn cael mynediad at y gronfa ddata droseddol sy’n dangos bod Linden, ar 1 Ionawr 1759, wedi cael ei gyhuddo gan bedwar dyn, Thomas Price, Evan Phillip, George Adney a Thomas Prothero (neb o’r enw Allen) o ymgais ar sodomiaeth. Gallai sodomiaeth olygu nifer o wahanol bethau bryd hynny, nid oedd o reidrwydd yn golygu gweithgaredd rhywiol rhwng dynion, felly ni wyddom beth yn union y cyhuddwyd Linden ohono ar y pryd. Serch hynny, ar bob un o’r pedwar cyfrif dychwelwyd rheithfarn o ‘ddim gwir achos’, sy’n golygu nad oedd digon o dystiolaeth o euogrwydd i gefnogi cyhuddiad troseddol yn erbyn y cyhuddedig. Efallai y bydd gwaith ymchwil yn y dyfodol yn taflu mwy o oleuni ar y mater.
Ffynonellau: R.C.B. Oliver, ‘Diederick Wessel Linden, M.D.’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf. 18, rh. 3, Haf 1974, tud.261-2; Cronfa Ddata Trosedd a Chosb, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
1776
Ym 1776 cychwynnodd Thomas Pennant (1726-1798), llenor, teithiwr a hynafiaethydd toreithiog a oedd yn arbenigo mewn astudio Cymru, ei byd natur a’i phobl o’i gartref ym Mhlas Downing, Sir y Fflint. Roedd yn casglu gwybodaeth ar gyfer ei lyfr newydd A tour in Wales, sef tair cyfrol yn croniclo tair taith a wnaeth ar gefn ceffyl rhwng 1773-1776 ac mae’r gwaith yn dal i gael ei ystyried yn un o lyfrau teithio gorau’r cyfnod. Yn ei ail gyfrol Journey to Snowdon (1781), mae Pennant yn adrodd sut y bu iddo chwilio am Marged ferch Ifan (1696-1793), sef menyw a oedd yn enwog am ei chryfder corfforol a’i gwrywdod.
Ffynhonnell: Norena Shopland, Forbidden Lives: LGBT stories from Wales, Seren Books, 2017
1778
Mary Caryll. Mae’r tair wedi eu claddu yn Eglwys Sant Collen. Am fwy o wybodaeth am Ladis Llangollen, gweler Wikipedia, ond anwybyddwch y llinell ynglŷn â chael eu gorfodi i briodi yn erbyn eu hewyllys – rhedodd y ddwy i ffwrdd gyda’i gilydd am eu bod eisiau bod gyda’i gilydd, nid unrhyw reswm arall.

1782
Cyhuddwyd y Parch. Hugh Davies, clerigwr o Lanelwy, o ymosodiad ar yr erlynydd – darpar weithiwr iddo – gyda’r bwriad o gyflawni sodomiaeth. Tystiodd gweithwyr eraill bod ymosodiadau eraill tebyg wedi bod. Canfuwyd nad oedd gwir achos i’w ateb, a gwrthodwyd yr achos.
Ffynhonnell: Cronfa Ddata Trosedd a Chosb, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
