skip to main content

The Rayoneer: Llinynnau Cymunedol

Yn 2021, roedd nifer o gopïau o ‘The Rayoneer’ wedi eu cyflwyno i’n casgliadau yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.  Dyma oedd y cylchgronau staff ar gyfer Ffatrioedd Courtaulds ar draws y DU. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys 226 rhifyn o 1931 i 1958. 

Roedd Courtaulds yn wneuthurwr ffabrig, dillad, ffeibr artiffisial a chemegau wedi’i leoli yn y DU. Cafodd ei sefydlu yn 1794 ac aeth ymlaen i fod yn brif gwmni cynhyrchu ffeibr wedi’i greu gan ddyn ar draws y byd. Yn ei anterth, roedd Courtaulds yn cyflogi dros 10,000 o bobl ar bedwar safle yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.  Roedd yna dri ffatri yn y Fflint: Aber Works, Deeside Mills a Castle Works; yn ogystal â Maes Glas yn Nhreffynnon. Roedd yn brif gyflogwr yn y Fflint a’r ail gyflogwr mwyaf yn Sir y Fflint.

Mae The Rayoneer yn rhoi cipolwg ar sut brofiad oedd gweithio yn Courtaulds yn ystod y 1930au a drwodd i’r 1950au pan gafodd y rhifyn diwethaf ei gyhoeddi.   Byddai pob rhifyn yn cynnwys negeseuon gan y Cadeirydd a’r Rheolwr Gyfarwyddwr yn Courtaulds. Roedd yna erthyglau rheolaidd fel ‘Eich Iechyd a’ch Harddwch’ a newyddion o’r amrywiol safleoedd yn cynnwys y rhai yn Sir y Fflint. Roedd hefyd yn cynnwys erthyglau rheolaidd am weithwyr, fel ‘clonc adrannol’ a lluniau o weithwyr, yn arbennig y rhai mewn clybiau chwaraeon a chymdeithasol.   Byddai yna hefyd fanylion am weithwyr wedi priodi a dyweddïo, yn ogystal â hysbysiadau am enedigaethau ac angladdau.

Gallwch gael golwg ar y stori ddigidol newydd ar gyfer ein cyfres Acid Free sy’n archwilio’r casgliad a chael golwg agosach ar gynnwys the Rayoneer;

Rydym hefyd wedi cynnwys podlediad ble rydym yn clywed gan gyn weithwyr Courtaulds i ddysgu mwy am eu profiad o weithio yn y ffatrïoedd yn Sir y Fflint.   Gwrandewch ar y bennod yma;