skip to main content

Ailddarganfod Merched: Llyn Padarn, Marged ferch Ifan

Gwyliwch a gwrandewch ar stori Marged uch Evan (Peggy) “Brenhines y Llyn” yn siarad am fywyd fel menyw a heriodd y norm yn Eryri yn y ddeunawfed ganrif

Cafodd monolog Peggy Evans ei ysbrydoli gan gyfeiriad Thomas Pennant ati yn un o’i lyfrau. Yn A Tour in Wales (cyfrol II) mae’n disgrifio Marged uch Ifan yn wraig bwysig a chlodfawr ac yn fenyw eithriadol, ac roedd wedi’i siomi pan nad oedd hi gartref pan ymwelodd â Phenllyn yn ystod ei daith yn Eryri.

Mae casgliad Nantlys yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg) yn cynnwys papurau Thomas Pennant (1726-98), y naturiaethwr a’r awdur topograffig enwog. Thomas Pennant oedd mab hynaf David Pennant ac Arabella Mytton, cafodd ei enwi yn nhŷ Downing ym mhlwyf Chwitffordd ger Treffynnon yn Sir y Fflint ar 14 Mehefin 1726. Roedd yn aelod o hen deulu a oedd yn meddu ar ystadau yn Chwitffordd a Threffynnon ers y 1450au. Mae’r casgliad yn cynnwys eitemau diddorol iawn, fel dyddiadur o’i deithiau i Buxton, Scarborough, Teignmouth a Bryste yn 1786-8 a nodiadur a gadwodd yn ystod taith o gwmpas Ewrop yn 1765-6. Hefyd ar gael a chadw ym Mhenarlag mae copi Thomas Pennant ei hun o History of the Parishes of Whiteford and Holywell 1796. Mae’r gyfrol wych hon yn cynnwys darluniadau ychwanegol ac eitemau rhydd a ychwanegwyd ar ôl ei farwolaeth gan ei fab, David Pennant. Maen nhw’n cynnwys delweddau o adeiladau sydd bellach wedi’u dymchwel, darluniau o offer diwydiannol cynnar, rhestr o felinau Treffynnon (a oedd yn dal yn gweithio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg), herodraeth boneddigion Sir y Fflint a brasluniau o ffosiliau, fflora a ffawna.

Cynhyrchiad Theatr Clwyd ar y cyd gyda Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru gan Emyr John

Marged: Caitlin Drake

Cyfarwyddo: Eleri B. Jones

Ffilmio & Golygu: Dafydd ‘Nant’ Owen @ffotonant