skip to main content

Ailddarganfod Merched: Miss Harris Jones, Yr Athrawes

Gwyliwch Miss Harris Jones, prifathrawes ymroddedig, yn siarad am fywyd athrawes yn ystod chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif

Mae’r monolog hwn yn seiliedig ar gofnodion ysgol fabanod a ysgrifennwyd gan Miss Anne Harris Jones yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Bu hi’n dysgu yn Ysgol Fwrdd Abermorddu yn Sir Fflint ac yn Ysgol Cyngor Victoria yn Wrecsam ac mae’r cofnodion yn dangos ei bod wedi ymrwymo ei rôl fel athrawes i’r plant yn ei gofal. Cawn yr argraff ei bod yn ddynes gryf a thosturiol. Ar adeg ei hymddeoliad yn dilyn 29 mlynedd o wasanaeth, mae cofnodion y rheolwr yn nodi ei bod ‘i raddau helaeth, wedi ymrwymo ei hun i addysg, lles a budd y plant yn ei gofal.’

Daethom o hyd i’r wybodaeth hon am Anne Harris Jones drwy bori drwy lyfrau cofnodion yr ysgol a chofnodion y rheolwr. 

Cynhyrchiad Theatr Clwyd ar y cyd gyda Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru gan Emyr John

Miss Ann Harris Jones: Kerry Peers

Cyfarwyddo: Eleri B. Jones Ffilmio & Golygu: Dafydd ‘Nant’ Owen @ffotonant