skip to main content

Tu Hwnt i’r Inc a’r Papur: Y Casgliad Beiblau Cymraeg (Podlediad)

Ymunwch â Bethan Hughes a Hedd ap Emlyn a fydd yn trafod cefndir y Casgliad Beiblau Cymraeg a ddaeth i law yn ddiweddar yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.

Yn y bennod hon o Heb Asid, bydd Bethan a Hedd yn ymchwilio i darddiad y casgliad, y gwahanol ffyrdd y daeth y Beiblau amrywiol i law ac arwyddocâd y casgliad i Ogledd Ddwyrain Cymru.

Sefydlodd Hedd ap Emlyn y Casgliad Beiblau Cymraeg ddiwedd y 1970au a bu’n gyfrifol am  ei guradu a’i ddatblygu hyd at ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996. Bu’n gyfrifol am arddangos rhai o Feiblau pwysica’r casgliad yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yng Nghatalunya a’r Almaen. Mae o wedi cynhyrchu tri chatalog o’r casgliad, gyda’r un diweddara’n ymddangos ar-lein yn 2023. Bu’n llyfrgellydd am 35 mlynedd ac, ar yr un pryd, yn gyfieithydd am 40 mlynedd. Mae o wedi ymddeol bellach ond mae o’n treulio llawer o’i amser yn gwneud gwaith ymchwil ac yn ysgrifennu erthyglau’n gyson i gylchgrawn cymdeithas hen lyfrau Cymraeg a Chymreig, sef Cymdeithas Bob Owen.

Tan yn ddiweddar, roedd Bethan Hughes yn Brif Lyfrgellydd Sir Ddinbych. Bu’n gydweithiwr gyda Hedd yng Ngwasanaeth Llyfrgell Clwyd. Pan drosglwyddwyd y Casgliad Beiblau Cymraeg i ofal Sir Ddinbych pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yn 1996, fe ddaeth yn gyfrifol am y casgliad, yn gyntaf fel Llyfrgellydd Gwasanaethau Cymreig ac wedyn fel Llyfrgellydd Datblygu Darllenwyr. Llynedd fe drefnodd gyda Gwasanaeth Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru i drosglwyddo’r casgliad i ofal y gwasanaeth archifau i sicrhau amodau amgylcheddol priodol i’r casgliad ar gyfer y dyfodol, ac i wella mynediad at y casgliad. Cynhelir y bennod hon drwy gyfrwng y Gymraeg; fodd bynnag, gallwch ddarllen y trawsgrifiad llawn yn Saesneg yma.