LHDTC+ 19eg Ganrif
1802
Yn nyddiaduron Ladis Llangollen, 1802: Ymweliad â Chastell y Waun. Roeddynt yn ymweld â Chastell y Waun yn aml. Roeddynt yn edmygu’r lle ac yn adnabod teulu Myddleton, a oedd piau’r castell. Roeddynt yn prynu caws gan y staff yno ac yn cyfnewid planhigion a garddwyr – John Jones.
1813
Ddydd Llun diwethaf, listiodd merch mewn dillad dyn fel milwr yn y 63ain catrawd, a oedd yn lluestu yn yr Amwythig. Yn fuan wedyn, cyfaddefodd mai merch oedd hi, a dywedodd mai ei bwriad oedd cael ei listio ar gyfer y 43ain catrawd, oherwydd roedd ei chariad, a oedd bellach ar ddyletswydd dramor, yn y corfflu hwnnw. Roedd wedi creu’r cynllun hwn am ei bod yn dymuno ei ddilyn. Roedd yn gwisgo siaced las a throwsus. Roedd ei thad yn ffermwr parchus yn ardal Llanelwy, Sir Ddinbych. (Cyfieithiad.)
Ffynhonnell: Liverpool Mercury, 22 Ionawr 1813
1819

Roedd Mary Charlotte Lloyd (1819-1896) yn dod o deulu Cymreig hynafol a oedd yn byw ym Mhlas Rhagatt, Corwen, pan gafodd ei geni. Roedd yn gerflunydd, a bu’n astudio gyda John Gibson yn Rhufain. Bu’n byw am ddegawdau gyda’r athronydd a’r ffeminist a oedd yn dadlau dros les anifeiliaid, Frances Power Cobbe. Mae gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru lun cerdyn post o’r tŷ, cyfeirnod: PPD/108/70.
1822
Bu Anne Lister, a elwid yn Gentleman Jack, yn ymweld â Phlas Newydd, cartref Ladis Llangollen. Fodd bynnag, nid oedd Eleanor Butler yn dda, ac roedd Sarah Ponsonby wedi dychryn ac nid oedd yn dda ei hun. Dywedodd Mrs Davis, a fu’n delio ag Anne, ei bod wedi adnabod y Ladis ers 13-14 blynedd, a’i bod bob amser yn eu gweld:
mor hoff o’i gilydd, a charedig – nid oedd dau unigolyn erioed wedi byw gyda’i gilydd mor hapus – mae gan bawb feddwl y byd ohonynt a’r bobl sydd o’u cwmpas, ac maent yn gwneud llawer o ddaioni – yr oedd y Fonesig Eleanor wedi bod yn ddynes brydferth – yr oedd Miss Ponsonby yn ddynes hardd iawn – mae’r Fonesig Eleanor Butler tua 80 mlwydd oed – mae Miss Ponsonby rhyw 10 i 12 mlynedd yn iau – mae’r cofnod gwael yma amdanynt yn fy ngwneud yn ddi-hwyl – mae gennyf ddiddordeb mawr yn y ddwy wraig yma, mae yna rywbeth yn eu hanes a phopeth yr wyf wedi ei glywed amdanynt yn creu argraff fawr. (Cyfieithiad.)
Cytunodd Sarah i weld Anne y noson honno, a dychwelodd am 8pm:
aethpwyd â fi i’r ystafell gerllaw’r llyfrgell (yr ystafell frecwast), bûm yn disgwyl munud neu ddau, ac wedyn daeth Miss Ponsonby – dynes fawr, a gerddodd i mewn o glun i glun, ond nid oedd yn dalach na mi – yr oedd yn gwisgo gwisg frethyn fyrwasg las, y siaced heb ei chau yn dangos crys ffriliog cyfrodedd plaen o danodd – cadach gwddf gwyn trwchus, wedi ei roi amdani’n eithaf rhydd – ei gwallt wedi ei bowdro, gyda rhesen i lawr y canol yn y tu blaen, wedi ei dorri i hyd canolig o’i gwmpas ac yn hongian yn syth, ac yn drwchus – wyneb a oedd yn arfer bod yn hardd iawn – hosanau cotwm gwyn bras – esgidiau sliper i ferched gyda thoriad isel, a’i thraed yn hongian drostynt fymryn – ffigwr od iawn ar y cyfan – ond, eto, pan ddechreuodd sgwrsio, anghofiais hyn i gyd, ac yr oedd fy sylw i gyd ar ei hymarweddiad a’i sgwrs. (Cyfieithiad.)
Roedd Anne yn eiddigeddus o’u cartref a’u hapusrwydd, ac wrth iddi adael, ysgwydodd Sarah Ponsonby ei llaw a rhoi rhosyn iddi. Dywedodd Anne y byddai’n ei gadw er cof am y man lle cafodd ei dyfu.
Pan ddangoswyd y gyfres deledu Gentleman Jack ar y teledu gyntaf yn 2019, roedd gwisg Suranne Jones wedi ei seilio ar y gwisgoedd marchogaeth a wisgwyd gan y Ladis.
1826
Ar 1 Mai 1826, cyhuddwyd Philip Chambres, Clerigwr o Henllan, o geisio cyflawni sodomiaeth, ond fe’i cafwyd yn ddieuog.
Ffynhonnell: Cronfa Ddata Trosedd a Chosb, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
1861
Diddymwyd y gosb eithaf am sodomiaeth pan ddisodlwyd Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1828 â Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1861. Cafodd cyfanswm o 8921 o ddynion eu herlyn ers 1806 am sodomiaeth, cafodd 404 ohonynt eu dedfrydu i farwolaeth, a dienyddwyd 56. Parhaodd cyfunrywioldeb i fod yn anghyfreithlon tan 1967 yng Nghymru a Lloegr, a 1980 yn yr Alban.
1865
NEWYDDION LLEOL. Sodomiaeth – Daethpwyd â Thomas Williams, brodor o Ddinbych, gerbron mainc y fwrdeistref ddydd Iau, wedi iddo gyflawni trosedd annaturiol ar ddyn o’r enw Edward Williams mewn llety yn y dref. Fe’i neilltuwyd i gael ei dreial yn y brawdlys.
Ffynhonnell: Wrexham Advertiser, 15 Gorffennaf 1865
1870au
Câi Abel Jones, ‘yr olaf o’r baledwyr mawr’, ei adnabod yn aml wrth ei enw barddol Bardd Crwst – ar ôl man ei eni, Llanrwst. Rywdro yn y 1870au ysgrifennodd faled am ferched yn gwisgo fel dynion er mwyn cael rhyw gyda merched ym Mhlas Uchaf (sydd 1.5 milltir (2.4km) o Gorwen), ac yn ‘Plas Glyn’ (sef Plas Glynllifon, o bosibl, sydd 56 milltir (90km) o Gorwen).
Mae’r ddelwedd ganlynol yn cynnwys testun sydd efallai ddim yn hygyrch i rai pobl. Mae’r testun yn y ddelwedd yn Gymraeg:
Gweld y testun gwreiddiol Cymraeg mewn fformat mwy hygyrch.

Am fwy o wybodaeth am y stori hon, gweler Baled Cwiyr Anweddus a Chân Cwiyr Gymraeg (gwefan allanol)
Delwedd drwy Lyfrgell Genedlaethol Cymru
1874
Roedd Gerard Manley Hopkins (1844-1889) yn fardd Seisnig ac offeiriad Jeswit, a ddaeth yn enwog ar ôl ei farwolaeth fel bardd blaenllaw Fictoraidd. Ym 1874 yr oedd yn byw yn Llanelwy, ac ystyrir ei dair blynedd yno fel rhai mwyaf dylanwadol a hapus ei fywyd. Dadleuwyd bod rhai o gerddi Hopkins yn cynnwys themâu homoerotig.

1884
“I BA BETH Y MAE’R BYD YN DOD (cyfieithiad o ‘WHAT IS THE WORLD COMING TO’): Wrth i ddynion ifanc fynd yn fwy merchetaidd – mae hynny yn sicr yn wir am y rheiny a elwir yn “masiars” – mae merched hefyd yn mynd yn fwy gwrywaidd. Mae masiars gwrywaidd bellach yn rhy ddi-werth i fodoli, bron. Byddai sôn am ewyn y môr yn peri iddynt lewygu, a byddai dim ond gweld Havannah, hyd yn oed, yn difetha eu harchwaeth bwyd i’r fath raddau fel y byddai cyrri berdys yn fwy na phryd iddynt. Ond, ynglŷn â’n testun. Ni all masiar (hynny yw masiar gwrywaidd) fynd y tu hwnt i “a little beauty” neu “Richmond Gem”, ond, wel, am y ferch gyfatebol! Mae’r ysmygwr benywaidd yn ysmygu sigârs mwy a chryfach, gyda mwy o awch – neu felly yr ymddengys o berfformiad tair merch ifanc a oedd yn mwynhau eu sigârs nos Lun ar Bromenâd y Rhyl. Ceid tri golau coch eu Havannahs fel signalau perygl wrth gyffordd rheilffordd, ac yr oedd y mwg glas yn cyrlio i fyny mewn cymylau a oedd yn awgrymu’r syniad bod tri phlanhigfäwr o Virginia wedi cyfarfod i drafod sigârs. Yr oedd yr ysmygwyr teg yn amlwg yn hen lawiau ar y gêm.”
Ffynhonnell: Rhyl Advertiser, 25 Hydref 1884
1885
Cyhoeddodd Senedd Prydain Ddeddf Diwygio Cyfraith Trosedd 1885. Yr oedd Adran 11 y Ddeddf honno, a elwid yn Ddiwygiad Labouchere, yn gwahardd anwedduster dybryd rhwng dynion. Daeth, felly, yn bosibl erlyn pobl gyfunrywiol am gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol os na ellid profi bod sodomiaeth neu ymgais i gyflawni sodomiaeth wedi digwydd.
1891
‘FFUGIO MEWN DILLAD MERCH (cyfieithiad o ‘MASQUERADING IN WOMAN’S CLOTHES’): Carcharwyd Thomas Owen – gŵr tua 25 mlwydd oed, heb alwedigaeth benodol, a oedd yn dod o Ruthun – gan y Cwnstabl Josiah Barker, wedi ei gyhuddo o fod yn ddyn gwallgof yn crwydro. Ar y noson dan sylw, hysbyswyd y cwnstabl gan Mr Tilston, gof, bod dyn mewn dillad merch yn crwydro o gwmpas Rhydygoleu. Cychwynnodd y Cwnstabl Barker i’r cyfeiriad hwnnw, a thua 11:15 canfu Owen yn crwydro ym mhen uchaf y Stryd Fawr, i ba le y daeth o Rydygoleu. Arestiwyd y dyn anffodus gan y cwnstabl, ac aeth ag ef yn gyflym i swyddfa’r heddlu, wedi gofyn iddo yn gyntaf pam yr oedd mewn dillad merch. A barnu yn ôl ei ymddangosiad a’i ymarweddiad wrth siarad, yr oedd yn wallgofddyn ar grwydr. Ymddengys fod Owen wedi bod mewn gwallgofdy am ddwy flynedd, ond daeth oddi yno fis Hydref diwethaf. Honnir hefyd ei fod wedi cael y dillad yr oedd yn eu gwisgo pan ddaliwyd ef o dŷ ei fam, y dywedir ei bod yn byw yn “Rhos-road”, Rhuthun. Gwelodd Mri P. B. Davies Cooke a Tatton Davies Cooke y dyn fore dydd Llun, a Dr E. Williams o’r Wyddgrug, a ddyfarnodd ynglŷn â’i gyflwr meddyliol, a gwnaeth yr ynadon y gorchymyn arferol i Owen gael ei gadw gan yr awdurdodau priodol.’
Ffynhonnell: Llangollen Advertiser, 31 Mawrth 1891
1894
‘Hamlet Heno (cyfieithiad o ‘To-night’s Hamlet’): Nos Wener yma, bydd Mrs Bandmann Palmer yn portreadu Hamlet yn yr Operetta House. Ni fu merch ar ein llwyfan – nac ar unrhyw lwyfan arall – ers yr amser pan fu’r actores wych o America, Charlotte Cushman, yn gwneud argraff ar fynychwyr theatr Lloegr, sydd wedi meddu ar y grym dramatig nerthol sydd ei angen i bortreadu cymeriadau gwrywaidd fel sydd gan Mrs Bandmann Palmer. Ers cyfnod Charlotte Cushman, ni chafwyd unrhyw un a allai gystadlu â Mrs Bandmann Palmer i fod y Cushman Seisnig. Ni all unrhyw un byw gystadlu â rhagoriaeth ddramatig y grym arbennig sydd ganddi wrth bortreadu Hamlet, Tywysog Denmarc.’
Ffynhonnell: Rhyl Journal, 1 Medi 1894

1895
Cafodd Oscar Wilde ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar gyda llafur caled ar ôl cael ei roi ar brawf am anwedduster dybryd o ganlyniad i’w berthynas â’r Arglwydd Alfred Douglas.
Cafodd Robert Garrett Roe, gŵr oedrannus a fu’n ysgolfeistr yn Swydd Northampton, ei gyhuddo o ymddygiad anweddus dybryd. Anfonwyd Roe i Wrecsam gan y Ffederasiwn Rhyddfrydol Cenedlaethol i drefnu Bwrdeistrefi Dinbych ar gyfer yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn yr etholiad diweddar, ac arhosodd yn y Maelor Temperance Hotel lle digwyddodd y troseddau, sef ymosod yn anghyfreithlon ac anweddus ar Arthur Henry Guntrip a William Williams. Gwadodd Roe ei fod wedi bwriadu cyflawni’r drosedd ddifrifol y cyhuddwyd ef ohoni, ac apeliodd am drugaredd. Anfonodd y fainc ef i sefyll ei brawf am ymosodiad anweddus, ond oherwydd y gwrthodwyd mechnïaeth iddo fe’i symudwyd o Wrecsam i Garchar Rhuthun. Fe’i cafwyd yn ddieuog.
Ffynhonnell: Wrexham Advertiser, 2 Tachwedd 1895

