Oriel y Dihirod: Troseddwyr Gogledd Ddwyrain Cymru yn Oes Fictoria
Ymunwch â ni wrth inni ymchwilio i fywydau troseddwyr yn Oes Fictoria a thrafod y ffotograffau’r oedd yr heddlu’n eu defnyddio, y cosbau a roddwyd i bobl a chyflwr carchardai ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’r bennod hon yng nghyfres Heb Asid yn canolbwyntio ar ddwy o gyfrolau clawr lledr digon cyffredin yr olwg yn ein casgliadau, y “Llyfrau Lladron” sy’n llawn lluniau o ddrwgweithredwyr wedi’u dal ynghyd â disgrifiadau corfforol ohonynt a manylion am eu troseddau. Cafwyd y rhan fwyaf o’r troseddwyr yn y cyfrolau’n euog yn Rhuthun, ac eithrio ambell rai a aeth o flaen eu gwell mewn mannau eraill. Yr Uwch-arolygydd J Bradshaw oedd yn gyfrifol am gasglu’r cyfrolau at ei gilydd a byddai’r heddlu wedi eu defnyddio i adnabod drwgweithredwyr â chysylltiadau â gogledd Cymru.
Ein gwestai ar gyfer y podlediad hwn yw Richard Ireland.
Bu Richard Ireland yn darlithio yn Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth am ddeugain mlynedd cyn iddo ymddeol, yn arbenigo mewn hanes trosedd a chosb. Mae Richard wedi ysgrifennu llawer o erthyglau a nifer o lyfrau ar y pwnc, gan gynnwys Land of White Gloves? A History of Crime and Punishment in Wales. Mae wedi bod ar y radio a’r teledu sawl gwaith hefyd, gan gynnwys y One Show ar BBC1 mewn darn wedi’i ffilmio yng Ngharchar Rhuthun yn sôn am drosedd a ffotograffiaeth.
Ein Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, Katie, sy’n holi Richard.
Dogfennau Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a ddefnyddiwyd yn y bennod hon: DPD/5/1
