skip to main content

Ailddarganfod Merched: Gresffordd, Y Weddw

Gwyliwch a gwrandewch ar stori gwraig weddw yn goroesi ei gŵr pan ei laddwyd yn Nhrychineb Glofa Gresffordd ym 1934.

Fe ddigwyddodd Trychineb Pwll Glo Gresffordd yn ystod oriau mân y bore ar 22 Medi 1934 pan fu i ffrwydrad a thân tanddaearol ladd 263 o lowyr a thri gweithiwr achub. Roedd yn un o’r trychinebau pyllau glo gwaethaf ym Mhrydain ac fe ysgogodd ymateb cenedlaethol gan bawb a oedd yn dymuno rhoi unrhyw gymorth yr oeddent yn gallu i deuluoedd y dioddefwyr.

Mae’r monolog hwn yn seiliedig ar gofnodion y gronfa gymorth a sefydlwyd i gynorthwyo dibynyddion y dioddefwyr. Yn ogystal â chofnodion a chofnodion gweinyddol eraill, mae’r casgliad yn cynnwys cyfoeth o lythyrau; gan roddwyr, sefydliadau ac unigolion fel ei gilydd, ac ymgeiswyr ar gyfer grantiau. Mae’r llythyrau mwyaf trawiadol gan unigolion tlawd a oedd yn barod i roi’r ychydig geiniogau yr oedd ganddynt, neu eitemau megis dillad i’r “poor souls … that have no hopes of there [sic.] breadwinner to return”.

Galwyd ar y gronfa i dalu biliau meddygol, y gost o addysgu plant a chostau byw cyffredinol. Parhaodd i weithredu hyd at y 1980au pan fu farw’r hawlydd olaf.

Cynhyrchiad Theatr Clwyd ar y cyd gyda Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru gan Emyr John

Y Weddw: Courtney George

Cyfarwyddo: Eleri B. Jones

Ffilmio & Golygu: Dafydd ‘Nant’ Owen @ffotonant