skip to main content

Ailddarganfod Merched: Dinbych, Gwyneth/Ann Owen, Y Mamau

Gwrandewch ar stori Gwyneth a’i hynafiad, Ann, a’u profiadau o seicosis ôl-enedigol. Rhybudd cynnwys: mae’r cynnwys yn dangos darluniad o seicosis a allai beri gofid i rai gwylwyr.

Mae’r monolog hwn yn seiliedig ar achos go iawn o iselder ôl-enedigol yn llyfrau achosion cleifion Ysbyty Gogledd Cymru, a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Gwallgofdy Siroedd Gogledd Cymru. Penderfynom amlygu achos penodol iawn, sef Ann Owens, a gafodd ei derbyn i Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych ym mis Ionawr 1875. Mae’r achos yn amlygu’r gwahaniaeth o ran dulliau triniaeth a’r ymagwedd tuag at iselder ôl-enedigol.

Roedd Ann yn 39 mlwydd oed pan gafodd ei derbyn i’r ysbyty, roedd ganddi bump o blant, a’r ieuengaf ond yn 1 mlwydd oed pan gafodd ei derbyn. Roedd Ann yn dod o Sir y Fflint, priododd weithiwr glo ac roedd wedi bod yn profi symptomau megis camsyniadau ac iselder difrifol. Roedd hi’n gwrthod bwyta ac roedd ei chyflwr meddyliol a chorfforol yn dirywio. Bu’n byw yn yr ysbyty am 6 mis, lle bu’n rhaid iddi gael ei bwydo drwy diwb, ac yn y pen draw, bu farw o bliwroniwmonia ym mis Gorffennaf 1875, gan adael ei gŵr a’i phlant ar ôl. Daethom o hyd i’r wybodaeth hon am Ann yn y nodiadau achosion a’r gorchmynion derbyn yng nghangen Rhuthun o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.

Cynhyrchiad Theatr Clwyd ar y cyd gyda Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru gan Emyr John

Gwyneth / Ann: Lowri Jones

Cyfarwyddo: Eleri B. Jones

Ffilmio & Golygu: Dafydd ‘Nant’ Owen @ffotonant