skip to main content

£10.00 gan gynnwys TAW

SKU: E510019321-1 Categori:

Disgrifiad

SYLWER: MAE’R GWASANAETH HWN OND AR GAEL I GERBYDAU A GOFRESTRWYD YN SIR DDINBYCH (A GOFRESTRWYD RHWNG 1920 AC 1976). RHAID I RIF Y DRWYDDED GYNNWYS “UN” NEU “CA” YN Y MARCIAU COFRESTRU.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys copi ardystiedig sy’n ofynnol gan y DVLA yn aml. Caiff y copi hwn ei anfon drwy’r post i gyfeiriad o’ch dewis chi.

Gofynnwch am chwiliad o’r math hwn dim ond os ydych yn gwybod beth yw’r rhif trwydded llawn. Os oes gennych ran o rif neu os ydych angen i ni chwilio cyfresi cyfan o gardiau, defnyddiwch ein gwasanaeth ymchwil fesul awr.

Mae gennym filoedd o gardiau cofrestru cerbydau nad ydynt wedi’u rhestru’n llawn eto, fodd bynnag, gallwch weld disgrifiad o’r casgliad yma.

Mae’n rhaid i ni bwysleisio nad oes sicrwydd y bydd yr ymchwil yn llwyddiannus. Yn anffodus, bydd cardiau ar goll o’r gyfres/swp weithiau. Mae rhai achosion pan na fydd y cerdyn yn darparu’r holl wybodaeth a ddisgwylir hefyd.

Bydd angen talu pan rydych yn anfon eich cais gwreiddiol. Os ydym yn barnu nad yw eich cais yn bosib o’r cychwyn (er enghraifft os nad oes gennym ddechrau’r rhif cofrestru sydd ei angen arnoch), byddwn yn cadw’r hawl i wrthod eich cais. Os yw hyn yn digwydd, byddwn yn ad-dalu eich taliad, neu’n cynnig gwasanaeth arall.

Adolygiad

Nid oes unrhyw adolygiadau eto

Byddwch y cyntaf i adolygu "Chwilio Cerdyn Cofrestru Cerbydau"

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol wedi'u marcio a *