Disgrifiad
Rydym yn codi ffi o £5.50 i gynnal gwaith ymchwil sengl o’r archif yn unig (dim mwy na 15 munud). Gallai hyn gynnwys;
- Chwilio am gofnod o fedyddio mewn cofrestr ar gyfer unigolyn penodol dros gyfnod penodol o amser
- Edrych am enw unigolyn ar y gofrestr derbyn i ysgolion
- Edrych am gofnod o gladdedigaeth unigolyn ar y gofrestr claddedigaethau
Nodwch, mae’r dewis hwn ar gyfer chwiliad eitem sengl yn unig, defnyddiwch ein Gwasanaeth Ymchwil i wneud cais am waith ymchwil estynedig.
Mae hyn yn cynnwys crynodeb o’r canfyddiadau a anfonir i chi mewn e-bost gyda chopïau perthnasol.
Bydd angen talu pan rydych yn anfon eich cais gwreiddiol. Os ydym yn barnu nad yw eich cais yn bosib o’r cychwyn (er enghraifft os nad oes gennym y cofnodi sydd ei angen arnoch), byddwn yn cadw’r hawl i wrthod eich cais. Os yw hyn yn digwydd, byddwn yn ad-dalu eich taliad, neu’n cynnig gwasanaeth arall.
Nodwch, ni fydd y gwaith ymchwil a wnawn yn gwarantu canlyniadau.
Byddwn yn ceisio cwblhau eich gwaith ymchwil cyn gynted â phosib neu o fewn 10 diwrnod gwaith.






Adolygiad
Nid oes unrhyw adolygiadau eto