Disgrifiad
Gwnewch gais am y gwasanaeth hwn dim ond os ydych wedi cael cyfarwyddyd gan aelod o staff, neu os yw’r claf rydych yn chwilio amdano wedi marw dros 100 mlynedd yn ôl. Os nad ydych yn siŵr pryd cafodd y claf ei dderbyn i’r ysbyty, cysylltwch â ni cyn gofyn am ymchwiliad.
Ymchwiliad Claf Ysbyty Gogledd Cymru. Mae cost yr ymchwil yn cynnwys amser staff i ymgynghori â chofnodion amryfal yn cynnwys trefn derbyn y claf; ffeiliau/nodiadau achos; cofrestrau derbyn/rhyddhau/marwolaeth ac ati.
Mae hyn yn cynnwys adroddiad terfynol o’r ymchwil a’i ganlyniadau, ynghyd â chopïau perthnasol (os caniateir) ac awgrymiadau ar gyfer ymchwil pellach lle bo’n briodol. Sylwer, os yw eich ymchwiliad yn cynnwys cofnodion sy’n ddyddiedig yn y 100 mlynedd diwethaf, ni fydd gennych hawl i gael copïau o’r cofnodion gwreiddiol a chewch gynnig crynodeb o gofnod y claf yn unig. Darperir copïau gyda’r amodau canlynol;
- Ni fyddwch yn defnyddio’r copi at unrhyw ddiben ac eithrio gwaith ymchwil neu astudiaeth preifat ac ni fyddwch yn rhoi copi i unrhyw un arall;
- Ni fyddwch yn rhoi’r copi ar wefan arall neu’n ei gyhoeddi ar unrhyw ffurf;
Bydd angen talu pan rydych yn anfon eich cais gwreiddiol. Os ydym yn barnu nad yw eich cais yn bosib o’r dechrau, byddwn yn cadw’r hawl i wrthod eich cais. Os yw hyn yn digwydd, byddwn yn ad-dalu eich taliad, neu’n cynnig gwasanaeth arall.
Dylech wybod na fydd yr ymchwiliad a wnawn yn gwarantu canlyniadau.
Byddwn yn ceisio cwblhau eich ymchwiliad cyn gynted â phosib, ond byddwch yn ymwybodol, gallwch aros hyd at 28 diwrnod gwaith mewn cyfnodau prysur.





Adolygiad
Nid oes unrhyw adolygiadau eto