Pobl
Mae ymchwilwyr yn defnyddio’r gwasanaeth archifau yn aml er mwyn darganfod pethau am fywyd pobl oedd yn byw yn Sir Ddinbych a Chlwyd yn y gorffennol. Gallai hyn fod yn ymchwil hanes teulu neu er mwyn darganfod pwy oedd yn arfer byw mewn eiddo neu pwy oedd yn berchen ar fusnes.
Sut ydw i’n chwilio am enw unigolyn?
Yn archifau Sir Ddinbych, mae gennym fynegai i enwau unigolion o fewn ein cofnodion, y gallwch eu chwilio ar frig y dudalen hon.
Cofiwch nad yw ein holl gofnodion wedi eu catalogio i’r lefel o fanylder angenrheidiol i sôn am bob un enw unigol yn ein casgliadau. Er enghraifft, nid yw enw pob unigolyn mewn cofrestr etholiadau, cofrestr llys neu gofrestr plwyf yn cael eu cynnwys yn y cofnod catalog.
Pa fath o gofnodion fydd fwyaf defnyddiol i fi?
Mae cofnodion sy’n ymwneud ag unigolyn yn cynnwys:
- Cyfrifiad
- Cofrestrau capel/anghydffurfwyr
- Cofrestriadau sifil (genedigaethau, priodasau a marwolaethau)
- papurau newydd
- Cofnodion ewyllysiau a phrofebion
- cofrestrau etholwyr
- Cofnodion ysgol (gan gynnwys cofrestrau derbyn)
- mapiau’r degwm
- asesiadau treth tir
- cofnodion llys a chofnodion thrwyddedu
- gweithredoedd eiddo
- llyfrau cyflog
- cofnodion landlordiaid
- ffotograffau
- llyfrau crefft
