skip to main content

Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau

Os ydych chi’n ymchwilio i unigolyn neu’n gwneud gwaith ymchwil teuluol, bydd angen i chi weld cofnodion sy’n ymwneud â genedigaethau, bedyddiadau, priodasau, marwolaethau a chladdedigaethau. Cyn cychwyn ar eich ymchwil, bydd angen i chi fod yn gwybod enw’r unigolyn, amcan o’u dyddiad geni, priodi neu farw, a’r ardal lle roeddent wedi eu cofrestru neu’n byw ar y pryd.

Nid ydym yn cadw tystysgrifau geni, priodas na marwolaeth. Mae’r rhain i’w cael gan y Cofrestrydd Cyffredinol neu eich cofrestrydd lleol.

Pa gofnodion y gallaf i eu canfod yn fy nghangen i o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru?

Cofrestrau Eglwysi a Chapeli

Mae cofrestrau bedyddiadau, gostegion/priodasau a chladdedigaethau a gynhaliwyd mewn eglwysi plwyf (Yr Eglwys yng Nghymru) yn cael eu cadw yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, ar y cyd â chofnodion plwyf eraill fel mapiau degwm a chyfrifon warden yr eglwys. Mae cofrestrau plwyfi yn rhoi gwybodaeth wahanol i dystysgrifau geni, priodas a chladdu ar ôl 1837. Os byddwch chi angen archebu copi o dystysgrif cofrestriad sifil, cysylltwch â’r cofrestrydd.

Bydd cofnod cofrestr bedydd yn nodi enw’r plentyn, enw’r rhieni (y tad yn unig mewn cofrestrau cynharach), cyfeiriad y rhieni, dyddiad y bedydd a’r eglwys. Mae rhai cofrestrau bedydd yn fwy manwl ac yn nodi’r dyddiad geni ar yr ymyl. Mae cofrestrau cynharach yn cynnwys llai o wybodaeth.

Cyn 1754, nid oedd llawer o wybodaeth mewn cofnodion priodasau. Yn aml, dim ond y dyddiad, enw’r priodfab a’r briodferch a’r plwyf yr oeddent yn ei nodi. Mae cofrestrau diweddarach yn dangos llofnodion tystion ac ar ôl 1837, ychwanegwyd enw tad y priodfab a’r briodferch.

Bydd cofnod cofrestr claddedigaeth yn rhoi enw ac oedran yr ymadawedig i chi, yn ogystal â dyddiad y gladdedigaeth a chyfeiriad yr unigolyn pan fu farw. Weithiau, mae’r cyfeiriad yn fanwl ac yn nodi rhif tŷ a stryd, ond dro arall dim ond enw pentref neu ardal a nodir. Ni fydd cofnod claddedigaeth yn rhoi manylion fel achos marwolaeth, perthynas agosaf na rhif plot yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae rhai cofrestrau capeli anghydffurfiol wedi eu cadw mewn archifau lleol, ond nid y cwbl. Ar y cyfan, mae cofrestr capel yn darparu’r un math o wybodaeth â chofrestr eglwys. Mae rhestr o’r cofrestrau capeli sydd gennym ni i’w gweld drwy ddefnyddio ein mynegai cofrestrau capeli.

Adysgrifau’r Esgob

Mae adysgrifau esgob esgobaeth Llanelwy ar ficroffilm gennym ni hefyd. Copïau yw’r rhain o’r cofrestrau a anfonwyd at yr esgob bob blwyddyn. Mae gennym gopïau microffilm o ffurflenni ar gyfer y rhan fwyaf o blwyfi o’r 1660au i’r 1850au. Mae adysgrifau’r esgob yn ffynhonnell ddefnyddiol pan fydd cofrestrau’r plwyfi eu hunain ar goll.

Arolygon mynwentydd ac arysgrifau cerrig beddi

Nid oes cynllun ar gyfer pob mynwent ac weithiau, os nad yw bedd wedi’i nodi, does dim ffordd o wybod lle yn union mae unigolyn wedi ei gladdu.

Mae arolygon mynwentydd wedi cael eu cynnal gan grwpiau o unigolion sydd â diddordeb mewn dogfennu claddedigaethau mewn mynwentydd penodol (cymdeithasau hanes lleol neu grwpiau cefnogi eglwysi er enghraifft).

Gallwch chwilio’r catalog am arysgrifau cerrig beddi mynwent benodol.

Ewyllysiau

Nid yw pawb yn gadael ewyllys, ond mae’n bendant werth ymchwilio iddo. Gall ewyllys ddangos y wybodaeth ganlynol-

  • Enw a chyfeiriad llawn yr unigolyn
  • Gwybodaeth am statws cymdeithasol a chyfoeth yr unigolyn
  • Gwybodaeth am dir ac eiddo’r unigolyn
  • Enw eu priod, plant, wyrion ac wyresau a pherthnasau teuluol eraill
  • Man claddu’r ymadawedig
  • Gwybodaeth am alwedigaethau
  • Enwau’r gweinyddwyr/ ysgutorion

Ychydig o ewyllysiau sydd gennym ni, a’r rheiny fel arfer wedi eu rhoi i ni eu cadw fel rhan o gasgliadau cyfreithiwr neu adneuon preifat eraill. Gallwch chwilio ein catalog am enw person i weld os yw eu hewyllys gennym ni.

Mae mynegai o ewyllysiau a ddilyswyd yng Ngwahanlys Penarlâg rhwng 1554 a 1800 ar gael yn ystafell ymchwilio ein cangen yn Sir y Fflint.

Os ydych yn chwilio am ewyllys Gymreig â dyddiad cyn 1858, dylech ddefnyddio gwefan ewyllysiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gallwch weld yr ewyllys ar lein.

Os ydych yn chwilio am ewyllys Gymreig â dyddiad ar ôl 1858, gallwch ddefnyddio’r Calendr Profiant Cenedlaethol ar ancestry.co.uk neu’r Brif Gofrestr Profiant.

Cofnodion Byrddau Claddu a Mynwentydd

Mae cofnodion mynwentydd yn gofnodion sy’n ymwneud â mynwentydd bwrdeistrefol yn hytrach na mynwentydd eglwysig. Roedd Deddf Claddedigaeth 1853 yn galluogi plwyfi a bwrdeistrefi i sefydlu a gweinyddu eu mynwentydd eu hunain. Hyd nes i’r Cynghorau Plwyfi gael eu sefydlu ym 1894, roedd festri’r eglwys yn cael dewis bwrdd claddu tan i’r Cyngor Plwyf ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn ym 1894.

Gellir dod o hyd i gofnodion Byrddau Claddu mewn cofnodion Cynghorau Plwyf neu gofnodion Cynghorau Dosbarth Trefol. Gall y cofnodion hyn gynnwys cofrestrau claddedigaethau, cofrestrau beddi, hysbysiadau claddedigaeth a chynlluniau mynwentydd.

Nid oes gennym gofnodion cyflawn o gladdedigaethau unigol ym mynwentydd Sir Ddinbych na Sir y Fflint yng nghofnodion y cynghorau plwyf na chofnodion y cynghorau dosbarth trefol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i chi gysylltu â’r swyddog mynwentydd os ydych yn chwilio am gofnod o gladdedigaeth a gynhaliwyd yn un o fynwentydd y cyngor.

I weld rhestr o Fynwentydd Sir Ddinbych, ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych.

I weld rhestr o Fynwentydd Sir y Fflint, ewch i wefan Cyngor Sir y Fflint.

Mae gan gangen Rhuthun gopi microffilm (MFD/1694) ar gyfer claddedigaethau a gynhaliwyd ym mynwent Dinbych (Ffordd Ystrad) rhwng 1889 a 1990. Bydd angen i chi archebu  darllenydd microffilm yn Rhuthun i gael gweld y cofnodion hyn.

Os ydych yn chwilio am gladdedigaeth mynwent yn Wrecsam, gallwch chwilio ar lein am gladdedigaethau a gynhaliwyd ym mhrif fynwent Wrecsam rhwng 1876 a 2012.

Cofnodion Amlosgfeydd

Daeth amlosgi’n gyfreithiol ym 1884. Nid oes unrhyw gofnodion amlosgfeydd yn cael eu cadw yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r amlosgfeydd lleol ym Mharc Coffa Sir y Fflint, Llaneurgain (agorwyd yn 2018), Llanelwy (agorwyd yn 2016), Pentrebychan, Wrecsam (agorwyd ym 1966) a Bron y Nant, Bae Colwyn (agorwyd ym 1957).  Bydd angen i chi gysylltu â’r amlosgfa’n uniongyrchol i holi am gofnod amlosgi.

Cyn 1957, gallai pobl Gogledd Cymru ddewis amlosgfa Landican ym Mhenbedw, er nad oedd yn cael ei defnyddio’n aml.

Cofnodion y crwner

Mae rôl y crwner wedi datblygu dros amser a bellach, mae’n ymwneud yn bennaf ag achosion o farwolaethau sydyn neu amheus.

Bydd cofnodion y crwner fel arfer yn cynnwys papurau’n nodi enw’r ymadawedig, eu hoedran, eu cartref a’u galwedigaeth. Maent yn rhoi manylion amgylchiadau’r farwolaeth, gan gynnwys lle a phryd y bu’r unigolyn farw; unrhyw salwch hysbys; p’un a honnwyd bod unrhyw un ar fai neu’n esgeulus; ac achos y farwolaeth. Gallant hefyd gynnwys datganiadau tystion, manylion eraill a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad ac adroddiadau yn y newyddion.

Dyma’r cofnodion crwner sydd gennym ni –

Mae cyfnod cyfyngedig o 75 mlynedd ar gofnodion y crwner.

Ym mha iaith yr ysgrifennwyd y cofnodion?

Mae mwyafrif y cofnodion hyn yn y Saesneg, ac eithrio cofrestrau rhai capeli/anghydffurfwyr sydd i’w gweld yn y Gymraeg ambell dro.

Mae rhai cofnodion plwyf cynnar wedi’u hysgrifennu mewn Lladin. Mae arweiniad i Ladin i’w weld ar wefan familysearch.org.

Ein polisi ni yw rhestru cofnodion yn yr iaith yr ysgrifennwyd hwy’n wreiddiol.

Sut alla’ i gael gafael ar y cofnodion hyn?

Mae cofrestrau plwyf ar gyfer Cymru ar gael drwy dalu tanysgrifiad i Findmypast.co.uk, Ancestry neu The Genealogist. Gallwch ddefnyddio’r safleoedd hyn yn rhad ac am ddim yn ein hystafelloedd ymchwil drwy archebu PC. Y cofrestrau plwyf sydd ar gael ar-lein:

  • Bedyddiadau cyn tua 1905
  • Priodasau/Gostegion cyn tua 1925
  • Claddedigaethau cyn tua 1955

Nodwch fod rhai plwyfi wedi penderfynu peidio â sganio eu cofrestrau. Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, mae’r rhain yn cynnwys plwyfi Rhuthun a Llanrhydd yn unig.

Os hoffech chi weld adysgrifau’r esgob neu gofrestrau plwyfi ar ficroffilm, bydd angen i chi archebu darllenydd microffilm.  Nid yw cofrestrau plwyfi gwreiddiol ar gael i’w gweld yr yn ystafelloedd ymchwilio ac eithrio mewn achosion eithriadol iawn neu os nad oes copi microffilm ar gael.  Mae gennym adysgrifau hefyd ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o blwyfi hyd at 1812.

I gael gweld cofnodion crwner, ewyllysiau, arysgrifau beddi a chofrestrau anghydffurfwyr gwreiddiol, bydd angen i chi gadw lle yn un o’n hystafelloedd ymchwilio.  I gael gweld cofnod crwner o fewn y 75 mlynedd diwethaf,  rhaid i chi wneud cais i’r crwner.

Mae manylion cyswllt crwner Gogledd Ddwyrain Cymru i’w gweld yma.

Pa gofnodion sydd yna mewn archifau a sefydliadau eraill?

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Gallwch chwilio am ewyllysiau cyn 1858 gan ddefnyddio gwefan Ewyllysiau Cymru y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae’r rhan fwyaf o gofnodion Eglwys Bresbyteraidd Cymru (Methodistiaid Calfinaidd) wedi’u cadw gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Y Cofrestrydd Lleol

Gall cofrestryddion Sir Ddinbych neu Sir y Fflint ddarparu copïau o dystysgrifau geni, priodas a marwolaeth ar gyfer unigolion a gofrestrwyd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn Sir Ddinbych (cyn 1974), Sir y Fflint (cyn 1974), Clwyd (1974-1996) a siroedd newydd Sir Ddinbych a Sir y Fflint (1996 ymlaen).

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael copi o dystysgrif, cysylltwch â Chofrestrydd Sir Ddinbych neu Gofrestrydd Sir y Fflint.

Y Cofrestrydd Cyffredinol (Y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol)

Y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol sy’n cadw archif genedlaethol o bob genedigaeth, priodas a marwolaeth yng Nghymru a Lloegr, yn dyddio’n ôl i 1837. Gallwch archebu copïau o dystysgrifau geni, priodas a marwolaeth ar lein ar eu gwefan.