Disgrifiad
Rydym yn codi ffi o £30 yr awr am waith ymchwil gyda uchafswm o 3 awr fesul cwsmer.
Mae hyn yn cynnwys adroddiad terfynol o’r gwaith ymchwil a’i ganlyniadau, ynghyd â chopïau perthnasol ac awgrymiadau ar gyfer gwaith ymchwil pellach lle bo’n briodol.
Ar gyfer gwaith ymchwil estynedig, byddwn yn cysylltu â chi i’ch hysbysu o unrhyw ffioedd ychwanegol. Pan fyddant yn cael eu talu, byddwn yn cychwyn y gwaith ymchwil.
Bydd angen talu pan rydych yn anfon eich cais gwreiddiol. Os ydym yn barnu nad yw eich cais yn bosib o’r cychwyn, byddwn yn cadw’r hawl i wrthod eich cais. Os yw hyn yn digwydd, byddwn yn ad-dalu eich taliad, neu’n cynnig gwasanaeth arall.
Nodwch, ni fydd y gwaith ymchwil a wnawn yn gwarantu canlyniadau.
Byddwn yn ceisio cwblhau eich gwaith ymchwil cyn gynted â phosib, ond byddwch yn ymwybodol, gallwch aros hyd at 28 diwrnod gwaith mewn cyfnodau prysur.





Adolygiad
Nid oes unrhyw adolygiadau eto