Ymwelwch â ni
Archebwch le yn ein hystafelloedd chwilio yma.
Mae croeso i unrhyw un ddefnyddio’r cyfleusterau sydd ar gael yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, gan gynnwys mynediad i gofnodion gwreiddiol, copïau microffilm a mynediad am ddim i wefannau hel achau megis Ancestry a Findmypast. Mae ein hystafelloedd chwilio am ddim i’w defnyddio, ond rydym yn codi tâl am ychydig o wasanaethau gan gynnwys copïo ac ymchwilio proffesiynol.
Mae ein hadeiladau yn hygyrch i bobl sydd ag anableddau corfforol. Am fanylion llawn am ein cyfleusterau ewch i’n polisi mynediad neu cysylltwch â ni.
