Gwneud cais am gopi
Gallwch wneud cais am gopi o’r ddogfen mewn dwy ffordd;
- O’ch Rhestr Ddymuniadau (rydym yn eich cynghori i ddefnyddio’r dull hwn pan fyddwch yn archebu nifer o eitemau)
- O Fanylion Cofnod unrhyw ddogfen (rydym yn eich cynghori i ddefnyddio’r dull hwn wrth archebu eitem unigol)
Gofyn am gopi o’ch Rhestr Ddymuniadau
Os gwyddoch yr hoffech archebu copïau o fwy nag un eitem, rydym ni’n awgrymu eich bod yn ychwanegu’r holl eitemau at eich Rhestr Ddymuniadau.
Unwaith mae’ch Rhestr Ddymuniadau wedi ei chwblhau gallwch ddewis eitemau i archebu copi ohonynt drwy dicio’r blwch ticio ger pob eitem.
Unwaith y byddwch wedi ticio’r eitemau, dewiswch Dyfynbris ar ben y ddewislen. Yna byddwch yn cael eich cyfeirio at ffurflen archebu pedwar cam.

Gwneud cais am gopi o Fanylion Cofnod
Pan fyddwch yn dod o hyd i eitem sydd o ddiddordeb yn y catalog gallwch ofyn am gopi yn uniongyrchol o Fanylion Cofnod. Os byddwch yn chwilio’r catalog ac yn dod o hyd i un eitem yn unig yr hoffech gopi ohoni, rydym ni’n awgrymu eich bod yn defnyddio’r dull hwn o wneud cais.

O’r fan hyn, dewiswch y tab Archebu a Gweld. Rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i allu gweld yr holl ddewisiadau o dan Archebu a Gweld.
Dewiswch Gwneud Cais am Ddyfynbris ac yna byddwch yn cael eich cyfeirio at ffurflen archebu pedwar cam.

Gosod eich archeb
Unwaith y byddwch wedi cyrraedd y ffurflen archebu pedwar cam gan ddefnyddio un o’r dulliau uchod, gallwch ddewis eich hoff fath o gopi a chyflenwi.

Gallwn ddarparu’r rhan fwyaf o eitemau ar fformat digidol, a fydd yn cael eu cyflwyno i chi un ai drwy e-bost neu dropbox / trosglwyddiad ffeil. Fel arall, gallwn bostio yr eitemau wedi eu hargraffu ar bapur i’ch cyfeiriad cartref.
Nodwch na fydd bob amser yn bosib copïo, yn ddibynnol ar faint a chyflwr y ddogfen.
Unwaith bydd cais am ddyfynbris wedi ei dderbyn gan aelod o staff, byddwn yn ymofyn y dogfennau er mwyn rhoi pris i chi ac yn asesu cyflwr y dogfennau er mwyn sicrhau y gellir eu copïo. Nodwch os gwelwch yn dda y gallai gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith i ni ddarparu dyfynbris i chi.
Byddwch yn derbyn e-bost awtomatig yn gadael i chi wybod cyfanswm y pris a bod y cais am ddyfynbris wedi ei weithredu. Os na fyddwch yn derbyn e-bost awtomatig, gwiriwch eich ffeil sbam os gwelwch yn dda. Fel arall gallwch weld dyfynbrisiau drwy fewngofnodi i’ch cyfrif (Helo [Eich Enw] yng nghornel dde uchaf yr hafan) a dewis y botwm Eich Dyfynbrisiau.

Does dim rhaid i chi dalu i brynu’r gwasanaeth, ond nodwch fod yn rhaid talu unrhyw ddyfynbrisiau o flaen llaw. Os hoffech fynd ymlaen i dalu, gallwch wneud hyn drwy ddilyn y ddolen i dalu rŵan yn yr e-bost awtomatig a fydd yn mynd â chi i’ch cyfrif i fewngofnodi.
Byddwch wedyn yn cael eich ailgyfeirio at Eich Dyfynbrisiau.

O dan Gweithredu mae dewislen, dewiswch Talu Rŵan o’r ddewislen a byddwch yn cael eich holi i dderbyn ein telerau ac amodau ac i wirio eich archeb. Dewiswch Mynd Ymlaen i’r Man Talu Diogel ar waelod y dudalen.

Byddwch wedyn yn cael eich ailgyfeirio at system dalu ddiogel y cyngor er mwyn prosesu eich taliad cerdyn.

Bydd staff yn cael gwybod eich bod wedi talu ac yn cwblhau eich cais copïo cyn gynted â phosib, fel arfer o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn y taliad.
