Casgliadau sydd wedi’u catalogio yn ddiweddar
Gallwch gadw llygad ar ein derbyniadau diweddar ar dudalen derbyniadau i ystorfeydd Yr Archifau Gwladol yma.
Mae miloedd o gofnodion yn cael eu hychwanegu at y catalog ar-lein bob blwyddyn. Yn 2019 fe ychwanegom dros 90,000 o gofnodion at ein catalog ar-lein. Ein casgliadau diweddaraf i gael eu catalogio yw;
- Cofnodion Ysbyty Gogledd Cymru (1842-1996)
- Papurau Hafina Clwyd: dyddiaduron personol (1956-2010)
- Papurau Bro Y Bigwn: (1988-2003)
- Cofnodion Bwrdd Claddu Nantglyn (1926-1937)
- Ffotograffau o Ysbyty’r Groes Goch yn Rhuthun (tua 1916-1918)
- Albwm ffotograffau yn dangos angladd Mrs Thomas Hughes o Ddinbych (1912)
- Cofnodion Ysgol Y Bendigaid Edward Jones, Y Rhyl (1965-2019)
- Casgliad o ffotograffau o Goleg Llysfasi (tua 1930au)
- Cofnodion Clwb Celf y Rhyl (1995-2014)
- Deddfau Lleol a Phreifat yn gysylltiedig â Sir Ddinbych (1820-1956)
