Adneuo eich cofnodion
Mae llawer o’r cofnodion yr ydyn ni’n gofalu amdanyn nhw wedi eu rhoi i ni neu wedi eu hadneuo gan aelodau’r cyhoedd, busnesau, sefydliadau a chymdeithasau. Os oes gennych chi gofnodion sy’n ymwneud â phobl neu leoedd yn Sir Ddinbych/Sir y Fflint a’r cylch ac fe hoffech eu diogelu a’u rhoi ar gael i’r cyhoedd, yna gallwch ychwanegu at ein casgliadau. Gallwch un ai roi eich cofnodion i ni’n rhodd, neu eu hadneuo â ni ar fenthyg.
Sut fyddwn i’n adneuo fy nghofnodion?
Os hoffech chi adneuo cofnodion cysylltwch â ni i drafod hynny.
Pan fyddwch yn adneuo cofnodion bydd angen i chi lenwi ffurflen gytundeb adneuwr a rhoi cymaint o wybodaeth ag a allwch chi i ni ar y cofnodion. Bydd hynny’n ein helpu i gatalogio a mynegeio’r casgliad. Bydd angen i chi hefyd benderfynu pa un ai i adneuo eich casgliad ar fenthyg neu’n rhodd.
Os byddwch yn adneuo eich cofnodion â ni ar fenthyg, maen nhw’n dal i fod yn eiddo i chi, ac mae gennych yr hawl i’w tynnu’n ôl. Mae yna rai telerau ac amodau sy’n gymwys i dynnu cofnodion yn ôl, ac mae’r rhain wedi eu mynegi yn y Cytundeb ar roddi neu fenthyg archifau.
Os byddwch yn rhoi eich cofnodion i ni’n rhodd, yna fe ddôn nhw’n eiddo i Gyngor Sir Ddinbych/Cyngor Sir y Fflint. Golyga hynny na fydd y telerau ac amodau a fynegir yn y Cytundeb ar Roddi neu Fenthyg Archifau yn gymwys i’r cofnodion hyn.
