Disgrifiad
Mae ein cynllun mabwysiadu bocs yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan yn niogelu dyfodol ein casgliadau hanesyddol unigryw.
Mae’n hollbwysig ar gyfer cadwraeth tymor hir ein harchifau eu bod yn cael eu storio’n gywir. Mae ein dogfennau’n cael eu cadw mewn mannau storio sy’n rheoli’r amgylchedd lle mae’r tymheredd a’r lleithder yn cael eu monitro, ond mae’n bwysig hefyd bod y dogfennau’n cael eu pacio’n gywir i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu rhag llwch, plâu neu ddifrod.
Cafodd nifer fawr o’n casgliadau eu pecynnu sawl blwyddyn yn ôl cyn defnyddio’r deunyddiau a’r safonau cadwraeth presennol, a gall hen ddeunyddiau pecynnu achosi difrod i’r archifau. Gall hen focsys a ffolderi o ddeunyddiau asidig achosi i ddogfennau ddirywio, gall tâp cyfreithiol wedi’i liwio a chlipiau metel a phinnau sy’n rhydu staenio neu erydu papur a memrwn. Mae gan NEWA raglen ailbacedu barhaus sy’n cael ei chynnal gan staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio i ddisodli bocsys a ffolderi a thynnu unrhyw ddeunydd metel a defnyddir i rwymo, ond mae prynu’r deunydd pacio arbenigol i’w ddisodli’n ddrud.
Byddai rhodd o £10 yn ein galluogi i ailbacedu cynnwys un bocs. Byddwn yn rhoi eich enw ar y bocs ac yn rhoi rhestr o’i gynnwys ac yn anfon llun ohono i chi. Byddai mabwysiadu bocs yn gwneud anrheg arbennig ac mae’r rhoddion yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi’r rhaglen hon, gan ein helpu ni i ddiogelu hanes gwerthfawr Gogledd Ddwyrain Cymru.







Adolygiad
Nid oes unrhyw adolygiadau eto