Prosiect Datgloi’r Seilam 2017-2019
Yn 2017, derbyniodd Archifau Sir Ddinbych (or enw Archifau Sir Ddinbych ar yr adeg), grant gan Wobr Adnoddau Ymchwilio Wellcome i noddi prosiect Datgloi’r Seilam.
Cyn y prosiect, nifer fechan o gofnodion o gasgliad Ysbyty Gogledd Cymru oedd wedi cael ei gatalogio’n unig, ac ar ffurf papur yn ystafell chwilio’r archifau yn unig yr oedd y catalog ar gael. Roedd y rhan fwyaf o’r casgliad heb ei gatalogio ac nid oedd ar gael i’r cyhoedd ar gyfer gwaith ymchwil.
Gweithiodd dri aelod o staff ar y prosiect, Archifydd y Prosiect, Swyddog Cymorth y Prosiect a Gwarchodwr y Prosiect. Yn ystod prosiect dwy flynedd, cafodd y casgliad ei gatalogio’n llawn, yn ogystal â’i ailbacio, a lluniwyd mynegai o tua 30,000 nodyn ar gyfer cyfres o ffeiliau cleifion a oedd yn dyddio ar ôl 1948. Am ragor o fanylion gweler catalog y casgliad, yn ogystal â gwybodaeth ar amodau mynediad ar gyfer cofnodion yr ysbyty.
Cynhaliodd Archifau Sir Ddinbych sawl digwyddiad i hyrwyddo’r casgliad, gan gynnwys lansiad prosiect a digwyddiad dod â’r prosiect i ben, yn ogystal â digwyddiadau Drysau Agored. Roedd y digwyddiadau hyn yn cynnwys trafodaethau ac arddangosiadau bach o gofnodion y casgliad. Roedd staff yn ysgrifennu blogiau rheolaidd drwy gydol y prosiect am wahanol agweddau o hanes yr ysbyty. Roedd y casgliad yn cael ei hyrwyddo mewn ddigwyddiadau allanol, gan gynnwys cynhadledd Cymdeithas Hanes Cymdeithasol Meddygaeth, cynhadledd Cymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Hanes Meddygaeth ac Iechyd (EAHMH) a digwyddiad ‘Dathlu Merched Sir y Fflint Ddoe a Heddiw’ yn Archifau Sir y Fflint (or enw Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru- Cangen Penarlag yn awr).

Tîm prosiect Datgloi’r Seilam yn didoli’r casgliad, 2017. 
Staff yn hyrwyddo’r prosiect a’r casgliad yng Nghynhadledd Cymdeithas Hanes Cymdeithasol Meddygaeth, Gorffennaf 2018. 
Archifydd y Prosiect yn adeiladu bocsys pwrpasol i letya cyfrolau o’r casgliad, Ionawr 2018. 
Swyddog Cymorth y Prosiect yn adeiladu bocsys pwrpasol i letya cyfrolau o’r casgliad, Ionawr 2019.
I ddarganfod rhagor, gweler ein tudalen Cyflwyniadau a Blogiau, sy’n cynnwys nifer o drafodaethau a dolenni i flogiau a luniwyd yn ystod y prosiect.
