Mynediad i Gofnodion Ysbyty Cyfyngedig
Mae cofnodion ysbyty a gedwir gan Archifau Sir Ddinbych sy’n cynnwys gwybodaeth feddygol bersonol a sensitif am gleifion a staff ysbyty wedi eu cyfyngu am hyd at 100 mlynedd.
I gleifion, mae hyn yn golygu na fydd modd gweld unrhyw gofnod am glaf a grëwyd yn ystod y cyfnod roeddent yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty am 100 mlynedd ar ôl dyddiad eu marwolaeth neu eu rhyddhau. Er enghraifft, os aeth claf i’r ysbyty ym mis Mai 1910 ac wedi aros yn yr ysbyty tan fis Mehefin 1955, ni fyddai modd gweld eu cofnod ar gyfer ymchwil cyffredinol tan ar ôl mis Mehefin 2055.
Ar gyfer staff yr ysbyty, mae hyn yn golygu y bydd unrhyw gofnodion sy’n cynnwys manylion personol neu sensitif am aelodau staff a grëwyd yn ystod y cyfnod roeddent wedi eu cyflogi yn yr ysbyty am 75 mlynedd ar ôl y dyddiad olaf a gofnodwyd. Er enghraifft, os oedd aelod staff wedi ei gyflogi gan ysbyty rhwng 1954 a 1957, ni fyddai ei ffeil staff ar agor ar gyfer ymchwil cyffredinol tan 2033.
Fodd bynnag, mae eithriadau i reolau mynediad cyfyngedig i unigolion sy’n dymuno gweld eu cofnod(ion) eu hunain, unigolion yn chwilio am gofnodion aelod o’r teulu ac unigolion sydd angen mynediad i gofnodion meddygol ar gyfer ymchwil academaidd. Gweler yr adrannau isod am wybodaeth bellach.
Sut alla i weld fy nghofnodion ysbyty fy hun?
Mae gennym gofnodion hanesyddol o rai ysbytai lleol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei ddal, gallwch chwilio drwy ein catalog neu ddarllen y canllaw gwrthrych Ysbytai ac Iechyd y Cyhoedd.
Os oes gennym gofnodion cleifion ysbyty lle’r ydych wedi derbyn triniaeth gallwch wneud cais am fynediad drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Sut alla i weld cofnodion am aelod byw o’r teulu?
Mae cofnodion cleifion yn cynnwys gwybodaeth sensitif sy’n golygu y gallwch ond gael mynediad i gofnodion person byw os ydych wedi cael eich awdurdodi i wneud hynny. I weld cofnodion iechyd rhywun arall, rhaid i chi:
- fod yn gweithredu ar eu rhan gyda’u cydsyniad, neu
- bod gennych awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ar eu rhan (atwrneiaeth), neu
- bod gennych sail gyfreithiol arall i gael mynediad
Os hoffech chi wneud cais i gael mynediad i gofnodion meddygol person byw sydd ar gadw gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, rhaid i chi wneud cais am ganiatâd i wneud hynny drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Sut alla i weld cofnodion am aelod o’r teulu sydd wedi marw neu hynafiad?
Hyd yn oed fel disgynnydd i glaf neu aelod staff marw, nid oes gennych hawl awtomatig i weld eu ffeil claf/ staff. Mae cofnodion cleifion yn cynnwys gwybodaeth sensitif ac mae dyletswydd gofal ganCynghorau Sir Dinbych a Sir y Fflint, fel rheolwyr data, i’r ymadawedig a’u teulu i sicrhau nad yw’r deunydd cyfyngedig hwn yn cael ei rannu’n amhriodol.
I wneud cais am fynediad i gofnod person marw bydd angen i chi gysylltu â ni gyda manylion gan gynnwys enw a dyddiad geni’r claf hwnnw, amcan bras o’r dyddiadau roeddent yn yr ysbyty a phrawf eu bod bellach wedi marw (h.y. tystysgrif marwolaeth). Yna bydd eich cais yn cael ei brosesu dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth fel y cytunir gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd angen i chi roi prawf adnabod (fel eich pasbort neu drwydded yrru) a phrawf o’ch perthynas â’r claf, fel rheol drwy ddarparu copïau o dystysgrifau geni a phriodas.
Os yw cofnod claf eich hynafiad wedi goroesi, yna efallai y cynigir crynodeb o’r deunydd a gedwir i chi e.e. dyddiad derbyn, diagnosis a dyddiad rhyddhau yr ymdrinnir â nhw tu allan i ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth, ar yr amod eich bod yn cyflwyno prawf mai chi yw’r ysgutor / perthynas agosaf neu’n gweithredu ar ran yr ysgutor / perthynas agosaf. Ni chaniateir mynediad i ffeil wreiddiol y claf (neu gopi ohoni).
Yn dibynnu ar yr amser mae’n cymryd i ddod o hyd i gofnod claf, efallai y codir tâl am y gwasanaeth hwn. Gweler ein ffioedd am wybodaeth bellach.
Sut alla i ddefnyddio cofnodion ysbyty ar gyfer ymchwil academaidd / meddygol?
Efallai y caniateir mynediad i gofnodion ysbyty i ymchwilwyr sy’n cynnal ymchwil academaidd ar lefel ôl-raddedig neu ar gyfer ymchwil meddygol.
I wneud cais i ddefnyddio’r casgliad ar gyfer ymchwil academaidd/ meddygol rhaid i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen hon ynghyd â llythyr eglurhaol gan eich prifysgol ac/neu dystiolaeth eich bod yn cynnal ymchwil meddygol. Yna bydd modd i staff archifau ystyried ceisiadau i ddefnyddio’r casgliad, ar y cyd â staff Llywodraethu Gwybodaeth yn Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dylai unrhyw bapurau ymchwil a gynhyrchir gan ddefnyddio cofnodion ysbyty fod yn ddienw.
Cysylltwch â ni am fanylion pellach.
