skip to main content

Canllaw i ddefnyddio’r Cofnodion

Lluniwyd y canllaw hwn i gynorthwyo ymchwilwyr i lywio a defnyddio casgliad Ysbyty Gogledd Cymru. Mae’r canllaw wedi’i rannu i feysydd pwnc ac yn tywys ymchwilwyr i gofnodion a fyddai’n ddefnyddiol i’w meysydd o ddiddordeb.

Nid yw’r canllaw hwn yn rhestr gyflawn o bob cofnod yn y casgliad, ac anogir ymchwilwyr i archwilio catalog llawn y casgliad ynghyd â’r canllaw pwnc hwn.

Nodwch fod cofnodion cleifion a staff sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sensitif ar gau i’r cyhoedd am hyd at 100 mlynedd. Efallai y bydd y cofnodion hyn ar gael i ymchwilwyr sy’n perthyn i sefydliad academaidd ar gais. Gweler ein amodau mynediad at gofnodion ysbyty am rhagor o fanylion.

Terminoleg

Mae’r casgliad yn cynnwys termau a fyddai’n cael eu hystyried yn enllibus neu’n sarhaus erbyn heddiw. Mae’r termau hyn yn adlewyrchu iaith ac agwedd y cyfnod, a dylid eu hystyried o fewn y cyd-destun hanesyddol.

Sut i chwilio am Glaf

Gorchmynion derbyn

Roedd gorchmynion derbyn claf yn darparu tystiolaeth eu bod yn ‘wallgofddyn ardystiedig’. Maent yn cynnwys gwybodaeth bersonol a manylion o symptomau’r claf cyn iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty.

Y gorchymyn derbyn yw cofnod cyntaf o gyfnod claf yn yr ysbyty, a gellir ei ddefnyddio ar y cyd gyda chofnodion eraill megis nodiadau achos, i ddod o hyd ragor am ofal y claf.

Gellir dod o hyd i fynegai o orchmynion cleifion yn dyddio o 1841 i 1914 ar –lein. Gweler catalog y casgliad am fynegai o’r cofnodion hyn.

Cofrestrau Derbyn

Mae cofrestrau derbyn yn cofnodi manylion derbyniad claf i’r ysbyty. Fel arfer, byddant yn cael eu trefnu fesul dyddiad derbyn ac yn cynnwys manylion am y claf, gan gynnwys rhif claf, enw, oedran, cartref blaenorol, statws priodasol a manylion o ddyddiad rhyddhad neu farwolaeth. Nes 1907, roedd y cofrestrau derbyn yn cynnwys manylion o gyflyrau meddygol y claf. Ar ôl 1907, roedd manylion meddygol yn cael eu cofnodi mewn cyfres o gofrestrau meddygol ar wahân.

Mae’r cofrestrau derbyn yn cael eu rhannu i wahanol is-gategorïau o gleifion, gan gynnwys preifat, tlotyn, ardystiedig, dros dro, a chleifion gwirfoddol. Gweler catalog y casgliad am ragor o fanylion ar y gwahanol gategorïau o gleifion.

Llyfrau a Ffeiliau Achos Cleifion

Llyfrau a ffeiliau achos cleifion yw’r cofnodion mwyaf addysgiadol am gyfnod claf yn yr ysbyty. Maent yn cael eu trefnu un ai fesul dyddiad derbyn, neu yn nhrefn y wyddor. Maent yn amrywio mewn fformat, ond maent fel arfer yn cynnwys manylion personol am glaf, gan gynnwys enw, oedran, dyddiad derbyn, cyflwr meddygol, archwiliad o’r claf wrth eu derbyn, ac adroddiadau ar gynnydd y claf, wedi’i ysgrifennu ar wahanol gyfnodau yn ystod eu harhosiad.

Mae llyfrau a ffeiliau cleifion yn niferus, a dylid chwilio am wybodaeth am gleifion mewn cofnodion eraill yn gyntaf. Bydd gwybodaeth am rif claf unigolyn neu ddyddiad derbyn o fantais wrth chwilio am y llyfr neu’r ffeil achos. Gellir dod o hyd i’r wybodaeth hon mewn gorchmynion derbyn a chofrestrau derbyn.

Cofrestrau Rhyddhau, Trosglwyddiadau a Marwolaethau

Yn gyffredinol, cofrestrau rhyddhau, trosglwyddiadau a marwolaethau yw cofnod olaf y claf wrth iddynt adael yr ysbyty. Maent fel arfer yn cael eu trefnu yn gronolegol fesul dyddiad rhyddhau, trosglwyddiad neu farwolaeth. Gellir dod o hyd iddynt yn hawdd os yw dyddiad rhyddhau neu farwolaeth unigolyn yn hysbys. Mae’r cofrestrau’n cynnwys manylion enw’r claf, a manylion ynghylch y math o ryddhad neu drosglwyddiad, neu achos marwolaeth.   

Ffotograffau

Yn wahanol i rai casgliadau ysbytai meddwl ac ysbytai cyffredinol, nid yw casgliad Ysbyty Gogledd Cymru yn cynnwys llun o bob claf yn unigol. Mae’r casgliad yn cynnwys 60 o luniau y gellir dod o hyd iddynt yn yr adran Lluniau a Deunydd Clyweledol. Gweler catalog y casgliad am ddisgrifiadau unigol o’r cofnodion hyn.

Sut i Chwilio am Aelod o Staff

Ffurflenni Cais Staff

Mae ffurflenni cais staff yn cynnwys manylion personol am yr ymgeisydd, gan gynnwys enw, cyfeiriad, oedran, sgil, hanes cyflogaeth flaenorol, a’r swydd yr oeddent yn gwneud cais amdani. Maent hefyd yn cynnwys geirda am yr ymgeisydd i’r teulu neu ar gyfer cyflogwyr blaenorol. Gweler catalog y casgliad am fynegai o’r cofnodion hyn.

Ffeiliau Staff

Mae ffeiliau staff yn amrywio mewn fformat, ond maent fel arfer yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag enw’r aelod staff, eu swydd, dyddiadau cychwyn a gorffen, a hanes cyflogaeth. Mae rhai o’r ffeiliau hyn yn cynnwys dogfennau ychwanegol hefyd, megis cyfatebiaeth, ffurflenni cais a gwybodaeth ar bensiynau.  

Sut i Ddarganfod Rhagor am yr Ysbyty

Cofnodion Pwyllgor

Mae cofnodion pwyllgorau ac is-bwyllgorau’r ysbyty’n dyddio o 1848 hyd at 1969. Mae cofnodion y pwyllgor a’r is-bwyllgor yn cynnwys gwybodaeth ar reolaeth ac arweinyddiaeth yr ysbyty, nid ydynt yn cynnwys gwybodaeth ynghylch cleifion unigol.

O 1848 hyd at 1948, roedd yr ysbyty’n cael ei reoli gan bwyllgor o Ymwelwyr gyda chyfrifoldeb statudol ac ariannol dros yr ysbyty, ac roedd gofyn cyfreithiol iddynt archwilio’r ysbyty meddwl yn rheolaidd. Ar ôl sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948, cafodd Pwyllgor yr Ymwelwyr ei ddisodli gan Bwyllgor Rheoli Ysbyty Gogledd Cymru. Roedd y pwyllgor newydd yn cymryd cyfrifoldeb dros Sefydliadau Diffyg Meddyliol Coed Du, Brychdyn, Llwyn View yn Nolgellau, Tŷ Fronfraith, a Garth Angharad, ac Oakwood Parc yn ddiweddarach. Yn 1967, diddymwyd Pwyllgor Rheoli’r Ysbyty a’i ddisodli gyda Phwyllgor Rheoli Ysbytai Clwyd a Glannau Dyfrdwy, a oedd yn gyfrifol am nifer o ysbytai’r ardal.

Mae mynegai o rai o’r cofnodion o fewn pob cyfrol. Mae gan rai cyfrolau llyfrau mynegai ar wahân. Pan mae mynegai ar wahân i’r cofnodion yn bodoli, fe nodwyd hyn yn nisgrifiad yr eitem. Gweler catalog y casgliad am ragor o wybodaeth.

Adroddiadau Blynyddol

Roedd yr adroddiadau blynyddol yn cael eu llunio ar ddiwedd bob blwyddyn. Maent yn cynnwys sawl adroddiad gan amryw aelod o staff a sefydliadau llywodraethu allanol. Nid ydynt yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â chleifion unigol.

Mae cynnwys yr adroddiadau blynyddol yn newid dros amser, y mathau o adroddiadau a gwybodaeth y gellir dod o hyd iddynt yw:

  • Adroddiad y Pwyllgor Ymwelwyr/Adroddiad Pwyllgor Rheoli Ysbyty Gogledd Cymru: Mae’r adroddiadau hyn yn cynnwys ystadegau yn ymwneud â derbyniadau, rhyddhad a marwolaethau. Efallai y byddant yn cynnwys adroddiadau ar newidiadau gweithdrefnol neu weinyddol, adroddiadau ar gyflwr yr adeilad ac adroddiadau ar newid mewn staff.
  • Adroddiad Comisiynwyr Gwallgofrwydd/Adroddiad Comisiynwyr y Bwrdd Rheoli: Mae’r adroddiadau hyn yn cyflwyno canfyddiadau archwiliad blynyddol ysbytai ac yn argymell meysydd i wella. Mae’r adroddiadau hyn fel arfer yn archwilio meysydd megis gofal cleifion, iechyd a diogelwch a gwaith cynnal a chadw ar adeiladau.
  • Adroddiad Blynyddol Uwch-arolygwyr Meddygol: Adroddiadau ar dderbyniadau, rhyddhad, marwolaethau, diagnosis a thriniaeth. Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am driniaethau arbennig megis, therapi electrogynhyrfol, therapi inswlin a lewcotomïau ar flaen yr ymennydd. Mae’r adroddiad yn archwilio iechyd cyffredinol yr ysbyty hefyd, ac yn adrodd am unrhyw glefydon heintus. Efallai byddai’r adroddiad yn archwilio cyflogaeth ac amser hamdden claf, newid mewn staff, gwasanaethau claf allanol a manylion o waith cynnal a chadw ar adeiladau.
  • Adroddiadau’r Clerc a’r Stiwardiaid: Mae’r adroddiad hwn yn archwilio cyllid yr ysbyty meddwl, gan edrych ar wahanol gyfrifon a chyflenwadau.
  • Datganiad Ariannol Blynyddol: Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys manylion o gyfrifon ariannol blynyddol yr ysbyty.
  • Adroddiadau Clinigau Canllaw Plant Gogledd Cymru: Mae’r adroddiadau hyn yn ymddangos o 1952, ac maent yn adrodd ar waith y clinigau yn ystod y flwyddyn flaenorol. Maent yn cynnwys gwybodaeth ar amserlen y clinigau, staffio, cleifion, gan gynnwys rhesymau dros atgyfeiriadau, diagnosis, ac ystadegau presenoldeb.
  • Adroddiad ar y Sefydliadau Diffyg Meddyliol: Mae’r adroddiadau hyn yn cael eu cynnwys o 1953, ac maent yn cynnwys adroddiad cryno ar y cyfleusterau sydd ar gael ymhob sefydliad, a newidiadau i’r sefydliadau dros y flwyddyn flaenorol.
  • Atodiadau: Mae’r atodiadau fel arfer yn cynnwys tablau amrywiol sy’n dangos newidiadau i boblogaeth y cleifion, nifer y derbyniadau, nifer y rhai a ryddhawyd a marwolaethau, achosion marwolaethau, achosion tebygol y salwch meddyliol, oedran cleifion a oedd yn cael eu derbyn, statws priodasol y cleifion, gwaith y cleifion cyn cael eu derbyn, crefydd y cleifion, a chyflogaeth cleifion o fewn yr ysbyty.

Nodwch nad yw’r rhestr hon yn gyflawn, gweler catalog y casgliad am ragor o fanylion ar gynnwys bob adroddiad blynyddol.

Cofnodion Adeiladu, Ailddatblygu a Gwaith Cynnal a Chadw

Y cofnodion hyn yw cyfres fwyaf manwl y cofnodion sy’n ymwneud ag adeiladu, datblygu a gwaith cynnal a chadw adeilad yr ysbyty. Yn dyddio o adeilad cyntaf yr ysbyty yn 1843, maent yn cynnwys cyfnod hir o hanes yr ysbyty hyd at 1980. Y cofnodion hyn yw’r unig ffynhonnell gwybodaeth ynghylch dylunio ac adeiladu cychwynnol yr ysbyty, gan nad yw cynlluniau adeiladu gwreiddiol yr ysbyty wedi goroesi.

Mae’r cofnodion hyn yn cynnwys log o’r gwaith a wnaed o ran adeiladu, diwygio, ehangu ac atgyweirio’r ysbyty, contractau, llyfrau archebion, cyfatebiaeth, canllawiau cynnal a chadw’r adeilad, a darluniau cynlluniau lliw ar gyfer tu mewn yr ysbyty. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chynnwys o fewn y cofnodion hyn yn amrywiol, gweler catalog y casgliad ar gyfer rhagor o fanylion ar gynnwys bob cofnod.

Mapiau a Chynlluniau

Mae’r cyfresi helaeth o fapiau a chynlluniau yn ymwneud ag adeilad yr ysbyty, safleoedd arall sy’n perthyn i’r ysbyty a’r cyffiniau. Mae’r casgliad yn cynnwys mapiau arolwg ordnans o’r ysbyty a’r ardal gyfagos. Mae’r casgliad yn cynnwys cynlluniau neu waith adeiladau a datblygiadau i du mewn a thu allan yr ysbyty hefyd.

Mae cynlluniau ar gyfer safleoedd eraill yr ysbyty hefyd, gan gynnwys Ysbyty Derbyn Gwynfryn ac Ysbyty Pool Park. Pan mae’r wybodaeth ar gael, mae gan ddisgrifiad bob cofnod rifau dyluniad, rhifau tudalennau ac enwau’r penseiri.

Nodwch nad oroeswyd unrhyw gynllun adeiladu gwreiddiol ar gyfer yr ysbyty, am ddisgrifiad o’r cynlluniau gwreiddiol, gweler y cofnodion adeiladu, ailddatblygu a chynnal a chadw.