Cymorth
Croeso i Dudalennau Cymorth Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru
Mae’r tudalennau hyn yn darparu cymorth ar sut i fynd ati i ymchwilio, darganfod dogfennau gan ddefnyddio ein catalogau ac archebu dogfennau i edrych arnynt pan fyddwch yn dod i ymweld â’n canghennau.
Efallai yr hoffech ddarllen mwy am ddefnyddio archif gan yr Archives Hub
Yn yr adran hon, cewch wybodaeth am chwilio’r catalogau (syml a manwl) a sut i archebu dogfen i’w gweld yn yr Archif.
Mae gennym hefyd gyfleuster digideiddio, a gallwch ofyn i gael copïau o eitemau wedi’u postio neu eu hanfon atoch ar e-bost.
Rydym yn annog ein holl ddefnyddwyr ar-lein i ddod yn Ddarllenwyr yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru. Cofrestrwch hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu dod i mewn i ymweld â ni: defnyddiwch eich cyfrif Darllenydd i reoli eich casgliad o restr ddymuniadau, a gofyn am gopïau ac eitemau digidol wedi’u lawrlwytho.
