skip to main content

Canllaw i chwilio’r Rholiau Llys Chwarter

Gallwch ddefnyddio ein bar chwilio ar frig unrhyw un o’n tudalennau gwe i chwilio catalog ein casgliadau, ond os hoffech hidlo canlyniadau eich chwiliad i gynnwys rholiau llys yn unig, defnyddiwch y canllaw hwn.

Mae ein catalog ar-lein yn cynnwys crynodeb fesul tudalen ar gyfer rholiau dethol; mae crynodeb fer o gynnwys pob tudalen o’r rholiau ar gael felly, a luniwyd gan wirfoddolwr, er mwyn ei gwneud hi’n haws chwilio am y rholiau. Mae’r crynodeb yn cynnwys y math o ddogfen (h.y. dogfen i’w harchwilio gan y cyhoedd, dogfen gyflwyno ac ati), disgrifiad byr o’r mater dan sylw ac mewn sawl achos enwau’r rhai sy’n cael eu trafod. Ar gyfer Sir Ddinbych, mae hyn yn cynnwys rholiau sy’n dyddio rhwng 1706-1743 ac ar gyfer Sir y Fflint rholiau sy’n dyddio rhwng 1747-1769. Mae’r disgrifiadau cryno hyn hefyd yn cynnwys llun digidol o’r dudalen sydd i’w gweld yn llawn ar-lein. 

Mae crynodeb mwy cynhwysfawr ar gael fel cymorth argraffedig ar gyfer dod o hyd i’n hystafelloedd-chwilio (ar gyfer Sir Ddinbych 1706-1800 a Sir y Fflint 1747-1829). Ein nod yw cyhoeddi mwy o’r crynodeb hwn ar ein gwefan yn y dyfodol, gyda lluniau digidol cysylltiedig lle bo’n bosibl.

Sut i chwilio am enw person yn y Rholiau Llys Chwarter

I chwilio am enw, gallwch ddefnyddio’r offeryn chwilio manwl i gyfyngu eich canlyniadau i gynnwys y rheiny sydd â chyfeirnod QS neu QSD, gan ddilyn y camau canlynol:

1. Teipiwch yr enw rydych chi’n chwilio amdano yn y bar chwilio

2. Cliciwch ar “Manwl” ar ochr dde’r bar chwilio [yna bydd blwch chwilio uwch yn agor]

3. O dan y blwch “Chwilio am ac o fewn y cyfeirnod”, teipiwch QS* i gyfyngu canlyniadau chwilio i gofnodion Llys Chwarter yn unig [Sylwch fod cyfeirnodau yn sensitif i briflythrennau a llythrennau bach a bod pob cyfeirnod gennym mewn priflythrennau]

4. Yna, bydd y canlyniadau chwilio’n ymddangos; a gallwch ddefnyddio’r hidlyddion ar yr ochr chwith i’w hidlo ymhellach. Er enghraifft, gallwch ddewis dangos canlyniadau o gangen Penarlâg yn unig i weld canlyniadau chwilio ar gyfer Llys Chwarter Sir y Fflint neu ddewis cangen Rhuthun i weld canlyniadau chwilio ar gyfer Llys Chwarter Sir Ddinbych.

Cofiwch, os ydych chi’n chwilio am enw cyffredin, efallai y bydd rhaid i chi fynd trwy sawl tudalen o ganlyniadau. Rydym yn argymell chwilio am enw llawn yn gyntaf h.y. “Eleanor Jones” ond hefyd gan geisio defnyddio’r enw cyntaf a’r ail enw yn unig.

Sut i chwilio am drosedd neu thema yn y rholiau Llys Chwarter

I ddarllen mwy am yr ystod o themâu sydd wedi’u cynnwys yn y rholiau Llys Chwarter, gallwch ddefnyddio ein canllaw ar-lein. Sylwch, mae’r casgliad hwn yn cynnwys termau a fyddai’n cael eu hystyried yn enllibus, amhriodol neu’n sarhaus erbyn heddiw. Mae’r termau hyn yn adlewyrchu iaith ac agwedd y cyfnod, a dylid eu hystyried o fewn y cyd-destun hanesyddol. 

I chwilio am thema/trosedd/pwnc, gallwch ddefnyddio’r offeryn chwilio manwl i gyfyngu eich canlyniadau i gynnwys y rheiny sydd â chyfeirnod QS neu QSD, gan ddefnyddio’r camau canlynol:

1. Teipiwch eich ‘gair allweddol’ yn y bar chwilio. Gallwch ddefnyddio unrhyw air allweddol, ond, efallai na fydd yr iaith a ddefnyddir yn y rholiau a’r mynegeion cysylltiedig yn adlewyrchu terminoleg fodern. Gweler ein canllaw ar-lein i gael awgrymiadau ar dermau chwilio.

2.  Cliciwch ar “Manwl” ar ochr dde’r bar chwilio [yna bydd blwch chwilio uwch yn agor]

3. O dan y blwch “Chwilio am ac o fewn y cyfeirnod”, teipiwch QS* i gyfyngu canlyniadau chwilio i gofnodion Llysoedd Chwarter yn unig [Sylwch fod cyfeirnodau yn sensitif i briflythrennau a llythrennau bach a bod pob cyfeirnod gennym mewn priflythrennau]

4. Yna, bydd y canlyniadau chwilio’n ymddangos; a gallwch ddefnyddio’r hidlyddion ar yr ochr chwith i’w hidlo ymhellach. Er enghraifft, gallwch ddewis dangos canlyniadau o gangen Penarlâg yn unig i weld canlyniadau chwilio ar gyfer Llys Chwarter Sir y Fflint neu ddewis cangen Rhuthun i weld canlyniadau chwilio ar gyfer Llys Chwarter Sir Ddinbych. Gallwch hefyd ddidoli’r canlyniadau yn ôl dyddiad.

Awgrymiadau chwilio

  • Mae’n debygol iawn y bydd rhaid i chi chwilio am nifer o dermau cysylltiedig, yn hytrach nag un term unigol. Bydd angen i chi chwilio am un term ar y tro neu chwilio am fwy nag un term, gan eu gwahanu trwy ddefnyddio gofod a rhoi tic yn y blwch chwilio manwl “Unrhyw un o’r geiriau”. 
  • Cofiwch gynnwys termau lluosog. Er enghraifft, os oes gennych chi ddiddordeb mewn crwydreiaeth, ceisiwch chwilio am “crwydryn” a “crwydriaid”
  • Cofiwch chwilio am amser gorffennol. Er enghraifft, os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymosodiadau, ceisiwch chwilio am “ymosod” ac “ymosodiad”
  • Gallech hefyd roi cynnig ar chwiliad uwch (wildcard) megis terfysg* (a fyddai’n dod o hyd i gyfeiriadau at ‘terfysg/terfysgwyr/terfysgoedd’) neu ymosod* (a fyddai’n dod o hyd i gyfeiriadau at ‘ymosod/ymosodiad/ymosodiadau’)