skip to main content

Trafeilio i Rhuthun

Cyrraedd yma yn y car

Mae ein cangen Rhuthun yng Ngharchar Rhuthun, carchar Pentonville Fictorianaidd wedi’i leoli yn nhref Rhuthun. Ein cyfeiriad yw Yr Hen Garchar, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun, LL15 1HP.

Mae parcio ar gael ar y safle ar gyfer gyrwyr anabl yn unig. Defnyddiwch y baeau parcio dynodedig a dangoswch eich bathodyn glas yn glir.

Y meysydd parcio talu ac arddangos agosaf yw Ffordd y Parc a Crispin Yard.

Cyrraedd yma ar y trên

Mae’r gorsafoedd agosaf yn y Rhyl a Wrecsam.

Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth bws i fynd o orsaf Wrecsam neu’r Rhyl i Rhuthun. Bydd teithiau o Wrecsam ar fws yn cymryd tua 50 munud a dros awr o’r Rhyl. I gael gwybod mwy am y gwasanaeth bws ewch i wefan Arriva Cymru.

Am fwy o wybodaeth ar amserau trenau, ewch i wefan National Rail.

Cyrraedd yma ar y bws

Mae’r arhosfan bws agosaf ar Stryd y Farchnad, Rhuthun. Pan fyddwch yn cyrraedd Stryd y Farchnad ewch i’r gorllewin tuag at Sgwâr Sant Pedr lle byddwch yn gweld cylchfan fechan gyda chwe allanfa. Cymerwch yr allanfa i Stryd Clwyd ac ewch i lawr yr allt. Mae’r Hen Garchar ar y dde ar waelod Stryd Clwyd. Trowch wrth y giât gyntaf ac mae drws y gwasanaeth archif yn syth ymlaen. Bydd yn cymryd tua 5-10 munud i gerdded o Stryd y Farchnad i’r Hen Garchar.

I gael gwybod mwy am y gwasanaeth bws ewch i wefan Arriva Cymru