Busnes a Chyfreithwyr
Mae cofnodion busnes yn adnodd ardderchog i ymchwilwyr â diddordeb mewn diwydiant, cyflogaeth a phobl leol.
Pa gofnodion y gallaf i eu canfod yn fy nghangen i o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru?
Mae cangen Rhuthun yn cadw casgliadau llawer o gyfreithwyr a busnesau lleol, gan gynnwys;
Cofnodion Samuel Peter Bevon, Cyfreithiwr, Wrecsam
Cofnodion Allington Hughes a Bates, Cyfreithiwr, Wrecsam
Cofnodion J.M. Porter, Pensaer, Syrfewr, Asiant, Bae Colwyn
Cofnodion George Rooper, stad Llanerchrugog a Chwarel Pant Glas
Cofnodion W. Jones, E. Talog Davies ac Aneurin O. Evans, Cyfreithwyr, Rhuthun
Cofnodion J. S. Lloyd ac Emyr Williams, Cyfreithwyr, Wrecsam
Cofnodion Cwmni G F Wynne, Cwmni Cloddio Mwynglawdd
Mae cangen Penarlâg yn cadw casgliadau llawer o gyfreithwyr a busnesau lleol, gan gynnwys;
Cofnodion Birch, Cullimore & Co., Cyfreithwyr, Caer
Cofnodion Joseph Lloyd & Co., Cyfreithwyr, y Rhyl
Cofnodion Keene a Kelly, Cyfreithwyr, Yr Wyddgrug
Cofnodion Llewellyn-Jones ac Armon Ellis, Cyfreithwyr, Yr Wyddgrug
Cofnodion Cwmni glofeydd, gan gynnwys: Brynkinalt Colliery Co; Llay Main Collieries Ltd, Cwmni Ruabon Coal and Coke; Broughton and Plas Power Coal Co; a Glofa’r Parlwr Du.
Cofnodion cwmni cynhyrchwyr gwaith brics a chrochenwaith, gan gynnwys: Buckley Brick & Tile Co. Ltd., Bwcle; Catherall and Hancock Brickworks & Pottery, Bwcle; Davidson Brickworks, Bwcle; Ewloe Barn Brick & Tile Works, Ewlo.
Cofnodion cwmni Gwaith Dur Brymbo.
Cofnodion cwmni cwmnïau morgludiant, gan gynnwys: Coppack Bros and Co., perchnogion llong a masnachwyr, Cei Connah; Crichton & Co., Ltd., Iard Longau Saltney.
Cliciwch ar y dolennau uchod i fynd â chi’n syth i’r catalog. Dewiswch ‘Edrych yn ôl Hierarchaeth’ i agor y catalog yn llawn. Mae yna lawer o orgyffwrdd rhwng casgliadau busnes a chyfreithwyr chasgliadau ystâd.
Mae yna nifer o gofnodion yn ymwneud â busnesau llai yn ein casgliadau helaeth o fân adnau (e.e. casgliadau sydd wedi eu gosod yn ôl D/DM neu DD/DM). Gallwch chwilio am fusnes neu unigol drwy ddefnyddio’r catalog arlein ar frig y dudalen hon.
Pa fathau o gofnodion sydd wedi eu cynnwys?
Gall cofnodion busnes gynnwys y mathau canlynol o gofnodion
- cofnodion ariannol gan gynnwys cyfriflyfr, llyfrau arian, dyddlyfrau
- llyfrau cofnodion cyfarfodydd byrddau neu gyfranddalwyr
- adroddiadau blynyddol
- ffeiliau gohebiaeth a llyfrau llythyrau
- lluniau, mapiau a chynlluniau
- deunydd cyhoeddusrwydd fel lluniau, posteri a thaflenni gwybodaeth
- cofnodion staff
Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o gasgliadau ond yn cynnwys casgliad o’r mathau hyn o ddogfennau.
Mae cofnodion cyfreithwyr yn cynnwys cofnodion gweinyddol swyddfa’r cyfreithwyr eu hunain a chofnodion papur cleientiaid (e.e. gwybodaeth sy’n ymwneud â phobl leol, ystadau ac eiddo) gan gynnwys
- cofnodion gweithredoedd ac eiddo arall
- papurau ewyllys ac ewyllysiol
- papurau achos cyfreithiol
- mapiau
- papurau personol
- cofnodion busnes
Ym mha iaith yr ysgrifennwyd y cofnodion?
Mae’r mwyafrif o’r cofnodion hyn yn Saesneg. Ein polisi yw catalogio’r cofnodion yn yr iaith y cawsant eu hysgrifennu.
Sut gallaf gael mynediad at y cofnodion hyn?
Gallwch weld y cofnodion hyn yn ein hystafelloedd ymchwil. Nid oes dim o’n casgliadau busnes na chyfreithwyr ar gael i’w gweld ar-lein. Archebwch le yn yr ystafell ymchwil heddiw.
Pa gofnodion alla i ddod o hyd iddynt mewn archifau a sefydliadau eraill?
Nodwch os gwelwch yn dda nad yw nifer o’n rhestrau papur o fân adnau wedi eu hychwanegu i’r catalog ar-lein llawn eto, ond fe allwch ganfod cyfeiriad at fusnesau llai yn y mynegeion wedi’u hargraffu yn yr ystafelloedd gwylio.
Mae’r Archifau Gwladol yn cynnal rhai cofnodion ar gyfer cwmnïau wedi’i diddymu oedd wedi eu cynnwys trwy gofrestriad.